Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Geiriau'r wythnos

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 11:08, Dydd Gwener, 9 Medi 2011

Casgliad o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.

  • Mae'n ddrwg gen i beidio â rhoi cynnig ar y testun ond bu'n rhaid i mi roi fy nghath 16 mlwydd oed i gysgu ar ôl salwch - 'Popi' yn ymddiheuro am beidio ag anfon ymgais i golofn farddol Twm Morys yn . Ac meddai Twm; "Rwy'n cydymdeimlo'n arw. Colli hen gyfaill ydi colli hen gath. Mae yma hen gath ddall yn dechrau ffwndro, a bydd yn chwith iawn ar ei hôl."
  • Os am lanwisg, ganwisg gu
    Na chyffyrddwch â pharddu.

    Y cyngor hwn gan ei dad oedd y cyngor gorau a gafodd Geraint Lloyd Owen erioed meddai wrth gwblhau brawddegau yn rhifyn Medi o'r cylchgrawn 'WA-w!' Datgela hefyd na allai ddweud 'Na' pe byddai rhywun yn gofyn iddo fod yn Archdderwydd ac yr hoffai fod yn warden traffig yng Nghaernarfon!
  • Does dim rhaid i bobl hÅ·n eistedd yn ôl a byw fel hen ferched mwyach. Yr ydw i wedi cael chydig o ddêts efo dynion o ugain i hanner cant. Dydi rhai ohonyn nhw ddim hyd yn oed yn gwybod be di'n oed i - Joan Lloyd, 65 oed o Abergele sydd newydd gael llawdriniaeth i chwyddo maint ei bronnau.
  • Byddai Mam yn fy lladd pe byddwn i'n ateb y beirniaid yn ôl - Robbie Savage sydd wedi ei ddewis yn un o gystadleuwyr .
  • Na, mi sticia i at y drefn arferol o gwpl o lyfrau Cymraeg a rhyw lympiau mawr tew yn yr iaith fain y bydda i wedi eu prynu am y nesa peth i ddim mewn siop elusen - Bethan Gwanas, yn ei cholofn yn atodiad 'Yr Herald Cymraeg' yn y 'Daily Post', yn ymwrthod ag 'e-lyfr a mynd a llyfrau arferol â hi ar ei gwyliau.
  • Bu rheolau cynllunio'r Parc yn gyfrifol am wacau pentrefi Eryri o'u pobl ifanc, gan ddenu estroniaid yma, ac o ganlyniad achosi cau bron yr oll o gapeli'r ardal - Eilian Williams, swyddog yng Nghapel Rehoboth, Nant Peris, yn gresynu mewn llythyr yn 'Y Cymro' heddiw at gynlluniau i ddathlu 60 mlynedd Parc Cenedlaethol Eryri. "Ni welaf fod unrhyw reswm i ddathlu," meddai.

  • Mae'n ymddangos nad oes y fath beth â'r swydd waetha gan fod pawb yn meddwl mai gan rhywun arall mae honno - Meirion Macintyre Huws sydd y cyflwyno'r gyfres newydd ar Radio Cymru, 'Joban Anodd' am swyddi mwyaf annifyr pobl. Ychwanegodd i 16% o'r rhai a holodd enwi glanhau tai bach yn joban waethaf ond i'r glanhawyr eu hunain enwi swyddi eraill gwaeth!
  • Credaf ein bod yn cyflym gyrraedd yr adeg y dylai'r Cenhedloedd Unedig ddechrau meddwl o ddifrif am ddileu ieithoedd eraill. Beth ydi pwynt y Gymraeg er enghraifft? Y cyfan mae'n ei wneud yw rhoi polyn gwirion i lwyth o benboethiaid fynd yn genedlaetholgar o'i gwmpas - Jeremy Clarkson sydd o'r farn bod y Saesneg yn ddigon i bawb.
  • Bu sôn mawr am ferch yn dyrchafu i fod yn Ddeon Bangor. Ai am fod merched wedi mynd yn fwy galluog neu'r dynion yn fwy lliprynnaidd y mae hyn wedi digwydd? Neu am nad oes fawr neb ond merched yn fodlon gweithio mewn eglwysi bellach? - Madog Mwyn yn 'Y Cymro'.
  • Mae'r Eidalwyr yn siarad am fwyd fel rydym ni'n siarad am y tywydd . . . [ac] yn gallu treulio oriau wrth y bwrdd ac maen nhw'n fussy am siâp y pasta sydd yn mynd orau efo'r saws - Elen Jones-Evans, gwyddonydd o Gymru sy'n gweithio yn yr Eidal yn .
  • Yr ydym yno i'n gilydd - Andrea Benfield, cyflwynwraig 'Wales Tonight', wedi iddi hi a Lee Byrne gyhoeddi y byddant yn priodi.
  • Yr oeddwn yn cael fy nghuro yn go ddrwg. Yr oedd gan hynny lawer i'w wneud â sut yr oeddwn yn edrych - Gethin Jones yn datgelu yn y 'Wales on Sunday' ei fod yn cael ei fwlio yn yr ysgol. Ychwanegodd mai ei ateb i'r broblem oedd ymarferion corfforol gyda phwysau yn y garej.
  • Fel pob gwleidydd mawr rhaid ichi gael eich blynyddoedd y diffeithwch. Cafodd Nelson Mandela rai. Mae nifer o wleidyddion wedi eu cael - Lembit Opik wedi iddo fethi â chael ei ddewis yn ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Faer Llundain.
  • Mae fy nyddiau yn dywyll a dyw'r haul ddim yn tywynnu ar fy mywyd mwyach - Huw Elystan Davies, athro Cymraeg a gafwyd yn euog o fod a cocaine yn ei feddiant.
  • Doedd y rhan fwyaf o'r cyhoedd ddim yn hapus iawn am y peth - Alan Kendall, rheolwr Rheilffordd yr Wyddfa wedi i Craig Williams o Cheltenham .
    "Fyddai ddim yn ei wneud eto," addawodd Mr Williams.
  • Sut y gallodd y cymeriad hwyaden gloff, angharismatig, di-liw , digymeriad, hwn barhau . . . Ieuan Wyn Jones AC amdano ei hun mewn cyfweliad yn y 'Western Mail'.
  • Mae unrhyw un sydd allan o waith yn bryderus ac mae bod yn rhiant sengl yn ychwanegu at hynny - Helen Mary Jones sy'n gobeithio bod yn Gadeirydd Plaid Cymru. Collodd ei sedd yn y Cynulliad yr etholiad diwethaf.
  • Yr ydym yn mynd i'r gêm hon gyda'r bwriad o ennill - Warren Gatland am y gêm yn erbyn De Affrica yng ngornest Cwpan y Byd fory.
  • Os ydi pencampwyr y byd yn eich grŵp, nhw 'da chi eisiau eu hwynebu gyntaf a rhoi popeth i'w curo - ar ôl cyhoeddi ei dîm i wynebu De Affrica.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.