Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dyfyniadau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 15:55, Dydd Gwener, 16 Medi 2011

Casgliad o sylwadau a welwyd yn y wasg Gymraeg a Chymreig yn ystod yr wythnos.

  • Cyfarchion ar ddiwrnod Owain Glyndwr. Dyna chi ddyn oedd hwnnw. Doedd y Mab Darogan ddim yn cyboli efo chwarae ar eiriau; annibyniaeth o fewn Ewrop neu ryw rwts cyffelyb. Ei syniad oedd cael senedd i Gymru a'i bod yn gyfrifol am ei sefydliadau'i hun. Fel gwledydd eraill oedd yn sefyll ar eu traed eu hunain. Syml a hawdd i'w ddeall. Biti na fuasai ein gwleidyddion heddiw yr un mor glir eu syniadau i werin gwlad eu deall - Madog Mwyn yn .
  • Hwyrach bod yr amser wedi cyrraedd i 'Blaid Glyndwr' gael ei geni - Sian Ifan, Prif Weithredwr Llysgenhadaeth Glyndwr yn galw am greu plaid wleidyddol newydd.
  • Dw i ddim yn dod o'r gogledd, dw i ddim yn ddyn - Elin Jones AC yn egluro nad yw hi yr ymgeisydd arferol ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru.

  • Mae lle yn y Blaid i'r myfyriwr sy'n ymgyrchu dros yr iaith Gymraeg, y plymer o Abertawe a'r pâr o Wigan sydd wedi ymddeol i Bwllheli - Elin Jones AC yn annerch cynhadledd Plaid Cymru yn Llandudno.
  • Mae cymunedau fel y rhain yn dod at ei gilydd ar adegau o angen a dyna'r ydym ni'n ei weld yma - Andrea Davies, cydlynydd yr ymdrech i achub.
  • Cam barbaraidd yn ôl - Y Dr Philip Dixon yn ymateb i adroddiad a ddywedai bod bron i hanner y rhieni a holwyd o blaid defnyddio cansen i gynnal disgyblaeth mewn ysgolion.
  • Enghraifft ogoneddus o Gristnogaeth ymarferol - pennawd dalen flaen 'Y Tyst' am agoriad swyddogol 'Y Stafell Fyw' Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill yng Nghaerdydd.
  • Yng nghaffis Cymru mae'n anodd gythreulig osgoi 'carbs' neu gacenni, bisgedi, pasteiod, bara ac ati - Bethan Gwanas yn atodiad Yr Herald Cymraeg yn y Daily Post yn ei gweld bron yn amhosib cael pryd iach mewn tai bwyta.
  • Mae'n anodd i ni, ac yn arbennig i'r genhedlaeth ifanc, ddirnad anferthedd y weithred. Bryd hynny, roedd ymerodraeth Prydain yn rheoli chwarter y byd a'r meddylfryd imperialaidd yn parhau - Yr Arglwydd Dafydd Wigley yn rhoi llosgi Penyberth yn ei gyd-destun hanesyddol mewn llyfr newydd, 'Cythral o Dân'.
  • Dydw i ddim eisiau trafod materion teuluol yn gyhoeddus - Helen Mary Jones yn ymateb i gyhuddiadau ar y we gan ei chwarae, Myfanwy Alexander.
  • Y mae artist yn medru achub pethau, ac mi haeraf i mai'r llenor a'r bardd sy'n gwneud hynny fwyaf effeithiol. Hwyrach mai dyna pam mae llywodraethau unbenaethol motr awyddus i sensro llenyddiaeth yn fwy felly na cherddoriaeth a dawns - Dr Harri Pritchard Jones cadeirydd Llenyddiaeth Cymru.
  • Gorffwys mewn hedd Andy Whitfield; a adnabyddir fel Spartacus ar y sgrin fawr! Yr oedd yn fachgen bach hyfryd yn Amlwch - Teyrnged gan Denise Evans Hughes i'r actor Andy Whitfield a fu farw yn 39 oed.
  • Bron i 3,000 o bobol yn cael eu lladd ar fore heulog yn yr U.D.A.. Ond nifer pitw o'i gymharu â'r lliaws a laddwyd dros y ddegawd yn y dial a ddilynodd - Alun Lenny yn ymateb yn erthygl olygyddol 'Y Tyst' i "chwydfa o gasineb" 9/11.
  • Yr oedd yn gôl fawr - o ansawdd gwych - Alex Ferguson wedi i Ryan Giggs sgorio yn erbyn Lisbon nos Fercher. Ei 27 gôl yng Nghynghrair y Pencampwyr ac yntau yn 37 mlwydd oed - a 289 diwrnod.
  • Mae'n ei wneud am y rhesymau cywir fodd bynnag - i gael profiad anhygoel ac i ddysgu crefft newydd o ddawnsio - Gethin Jones (cyn gystadleuydd) yn canmol penderfyniad Robbie Savage i gystadlu ar 'Strictly Come Dancing'.
  • Dydi'r helynt cic gosb ddim yn rhywbeth yr ydw i'n mynd i'w drafod a hel meddyliau amdano. Chafodd hi mo'i chaniatáu ac mi wnaethom ni golli'r pwynt; mor syml a hynny. Mae'n anodd derbyn y peth ond mae hefyd yn amser symud ymlaen. Rhaid inni fownsio'n ôl yn sydyn yn y gêm nesaf - James Hook yn dilyn Y gic gosb yn erbyn De Affrica ddydd Sul diwethaf.
  • Rhaid ichi ei daclo yn isel a'i gael i lawr yn gynnar. Allwch chi ddim gadael iddo gael gormod o rediad - Shane Williams am ei wrthwynebydd ar yr asgell yfory, Alesana Tuilagi.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.