Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rheolau iaith Eisteddfod Wrecsam

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:30, Dydd Iau, 4 Awst 2011

Anodd penderfynu pa reol iaith mae un gornel yn y Lle Celf yn ei thorri.

Y rheol iaith honno sy'n mynnu mai yn y Gymraeg yn unig mae cysadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ynteu'r rheol iaith gymdeithasol honno sy'n golygu bod y rhan fwyaf o bobl yn defnyddio iaith gymen yn gyhoeddus.

Mae'n ymddangos bod y ddwy yn chwilfriw yn "Astudiaethau Natur" gan David rees Davies gyda'r geiriau ochr yn ochr â llun bricsen ar un o'r lluniau ar y wal ynSaesneg ac yn cynnwys geiriau mor aflednais na ellir eu dyfynnu yma.

rhan o'r gwaith

Bosib mai'r ffordd i gyfiawnhau hyn yw dweud mai gwaith celf sy'n cael ei arddangos - ond pe byddai'r fath iaith ar ffrynt pabell un o'r stondinwyr busnes buan iawn y byddai plismyn iaith yr Eisteddfod a'u llach ar y troseddwyr.

Fory efallai.

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.