Eisteddfod y Dwbwl?
Mae hi'n ddiwrnod mawr yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam heddiw gan ei bod hi'n amser am Seremoni'r Cadeirio prynhawn 'ma. Y cwestiynau mawr yw, a FYDD yna enillydd a bydd yna enillydd y 'dwbwl'? Mae hanes wedi'i greu eisioes yn Wrecsam yn y gorffennol gyda'r Gadair a'r Goron yn cael eu hennill gan yr un Bardd. Mae'r tensiwn yn cynyddu!
Wrth gwrs, mae'n ddiwrnod mawr hefyd i aelodau newydd Gorsedd y Beirdd. Cawsant eu croesawu bore 'ma gyda gwen yr haul yn tywynnu ar Gylch yr Orsedd wrth iddynt gael eu anrhydeddu. Roedd fy nghyn-brifathro ymhlith yr aelodau newydd. Llongyfarchiadau Mr Jones!
Fe wnes i fwynhau fy sgwrs gyda Sian Aman, Meistres y Gwisgoedd bore ma hefyd. Mae wedi bod yn edrych ar ôl gwisgoedd yr Orsedd ers 27 o flynyddoedd. Y seremoni prynhawn 'ma fydd ei hun olaf -mae'n ymddeol o'r gwaith ac yn cael hoe haeddianol.
Roedd hi wrthi'n smwddio'n brysur pan wnes i ei gweld hi! Dywedodd hi wrthof ei bod hi'n falch iawn ei bod wedi'i anrhydeddu i roi'r gwasanaeth yma i'r Eisteddfod. Yn 2012, bydd Ela Jones wrth y llyw ac mae wedi bod yn gweithio fel Prentis i Sian dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae'n ddiwrnod prysur unwaith eto o gystadlu a dwi wedi bod yn siarad gyda'r rhai sy'n cymryd rhan ar y llwyfan. Fe wnes i hefyd gael sgwrs sydyn gyda fy nghydweithwraig yn y Â鶹Éç, Betsan Powys, sy'n cystadlu yn y categori Cerdd Dant. Pob lwc Betsan!
Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.