Nia yn Abertawe - dydd Sadwrn
Cyfraniad olaf Nia LLoyd Jones, Â鶹Éç Radio Cymru, sydd wedi bod yn blogio o gefn llwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Abertawe, gydol yr wythnos . . .
Doedden ni ddim ar yr awyr heddiw tan hanner dydd heddiw, felly mi dreuliais i'r bore yn mynd o un rhagbrawf i'r llall gan weld sawl wyneb cyfarwydd.
Un o'r rhai ar y llwyfan yng nghystadleuaeth yr alaw werin heddiw oedd Laura Blundall o Aelwyd Crymych. Mae Laura wrth ei bodd ar lwyfan, ac mae hi bellach wedi sefydlu Ysgol Berfformio yng Nghilgerran o'r enw Dynamix, felly pob lwc iddi hefo'r fenter honno.
Tair gan un
Cystadlu ar y llefaru unigol oedd Glesni Euros, Rhian Davies ac Elen Morgan, a dyma'r dair ddaeth i'r llwyfan ar y gystadleuaeth llefaru yn yr Eisteddfod Genedlaethol llynedd hefyd.
O sgwrsio gyda'r merched, mae'n debyg bod dehongliad bob un ohonyn nhw ychydig yn wahanol.
Be sy'n ddiddorol am hyn yw mai'r un person sydd yn gyfrifol am eu hyfforddi nhw - sef Delyth Mai Nicholas, felly llongyfarchiadau mawr iddi hi hefyd.
Hanner awr o nefoedd
Fel y dywedodd Rhiannon Lewis, fe gawson ni "hanner awr o nefoedd" ar y llwyfan yng nghystadleuaeth yr unawd offerynnol - diolch i Andrew Millard a'i ffidil, Rhodri Taylor a'i glarinet, a Glain Dafydd a'i thelyn.
Glain ddaeth i'r brig heddiw. Mae hi ar hyn o bryd yn astudio'r delyn ym Mharis ac fe fu'n rhaid i'w thad ddreifio draw i Baris i'w nôl hi a'r delyn!!
Da 'di'r tadau ma!
Newydd
Cystadleuaeth newydd ar y llwyfan eleni oedd y cyflwyniad digri a Lloyd Antrobus o Ysgol Uwchradd Maes Garmon gafodd y wobr gyntaf.
Yn ogystal a mwynhau perfformio ar lwyfan, mae Lloyd hefyd wedi gwirioni ei ben ag eliffantod ac wrth ei fodd yn mynd i'r sw gyfagos i'w gwylio nhw!
Rŵan ta, siawns nad oes 'na ddeunydd cyflwyniad digri am geidwad eliffantod?! Gawn ni weld flwyddyn nesaf!
Tlws coffa
Cafodd Elen Morgan ddiwrnod llwyddiannus iawn heddiw - gan mai hi hefyd enillodd Dlws Coffa Llew a gwobr gwerth dwy fil o bunnau am y cyflwyniad theatrig unigol.
Yn naturiol roedd hi wedi gwirioni, a pha ffordd well i ddathlu na mynd yn syth o'r eisteddfod i ddal awyren hefo'i ffrindiau i Ibiza!
Lwcus iawn!
Harry Potter
Un arall oedd yn dathlu oedd Sian Crisp - enillydd yr unawd o sioe gerdd. Mi welais i hi yn y rhagbrawf ac mi ganodd yn dda iawn yn fanno, ond erbyn iddi gyrraedd y llwyfan roedd hi'n mynd amdani go iawn ac fe gafwyd perfformiad gwych ganddi.
Do fe fu 'na gystadlu brwd a bywiog, ond un enw ddaeth i'r brig heno sef Aelwyd y Waun Ddyfal.
Roedden nhw yn ôl a blaen ar y llwyfan drwy'r nos, a llongyfarchiadau mawr iddyn nhw ar eu llwyddiant eleni.
Braf iawn hefyd oedd clywed un o'u haelodau nhw - Elliw Mai (hogan o Rhiwlas) - yn dweud ei bod wedi penderfynu cystadlu ar bob cystadleuaeth bosib flwyddyn nesa gan mai dyna'i blwyddyn olaf hi, ac wrth gwrs fe fydd yr eisteddfod 'adra' iddi.
A dyna ni wythnos arall wedi diflannu a sawl atgof melys fydd yn aros yn hir iawn yn y cof.
Diolch i bawb fu mor barod i sgwrsio - yn gystadleuwyr, a chefnogwyr, a byw mewn gobaith y cawn ni wneud yr un peth eto yn Eisteddfod yr Urdd yn Eryri flwyddyn nesaf.
Gobeithio wir eich bod chi gyd wedi prynu'r rhestr testunau!!