Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mwy am beli

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:21, Dydd Sul, 29 Mai 2011

Mae'r sgwrsio yn dal i droi o gwmpas pêl-droed fel y soniais i ddoe.

Ac wrth gwrs y mae diddordeb arbennig yn y ffaith mai Joe Allen fydd Llywydd yr Eisteddfod ddydd Mercher - nid dydd Iau fel mae'n dweud yn Rhaglen y Dydd, mae yna newid diwrnod wedi bod.

Gallwch chi ddychmygu'r croeso gaiff yr unig siaradwr Cymraeg yn nhîm yr Elyrch os bu ei glwb yn fuddugol ddydd Llun a sicrhau ei le yn yr Uwch Gynghrair.

Er mai o Benfro y daw Joe, 21 oed, symudodd i Abertawe pan oedd yn 16 oed er mwyn datblygu ei sgiliau pêl droed.

Wrth gyfeirio at ei ran yng ngweithgareddau'r Urdd dywed mai ychydig a feddyliai pan chwaraeai mewn gornestau yn Aberystwyth y byddai'n chwaraewr proffesiynol un diwrnod.

Ar wahân i gael Joe yn Llywydd y Dydd dywed yr Urdd bod gan y mudiad yn Abertawe gysyllltiad agos a thîm yr Elyrch ac wrth gwrs gwelsom sawl llun o Mr Urdd gyda Cyril the Swan yn ddiweddar!

Ar ben hynny mae gan Gymdeithas Pêl-droed Cymru stondin ar y Maes ac mi fydd Garry Speed yn ymweld â'r Steddfod ddydd Iau ac yntau wedi ei cael ei fuddugoliaeth genedlaethol gyntaf echnos.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.