Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dwedwch chi . . .

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:59, Dydd Gwener, 22 Ebrill 2011

Dyma ni, rhai o ddyfyniadau'r wythnos - pethau a glywyd ac a ddarllenwyd yn ystod yr wythnos a fu.

A beth am rannu ambell i sylw dwys, doniol neu ddifyr a welsoch chi. . .

  • Tynnais y wraig o'r gwely fel y galle hi sicrhau bod y rhifau'n gywir - Terry Roberts, .
  • Pobl waraidd a soffistigedig oedd y Ffilistiaid, yn ôl yr archeolegwyr a'r ysgolheigion. Does dim rhaid i Cris Dafis boeni - fyddai neb yn ei gamgymryd am Ffilistiad - Tim Saunders yn ymateb i erthygl gan Cris Dafis mewn llythyr yn ./li>

  • Mae'r weithred hon bellach yn rhan annatod o ddigwyddiadau yng nghanol y ddinas yn ystod y cyfnod cyn Gŵyl y Pasg - fu'n glanhau esgidiau pobl am ddwyawr ddydd Iau.


  • Fe fydda i'n dal i wylio'r Gleision a Chymru ond yn gallu ymlacio a threulio mwy o amser gyda fy nheulu a mwynhau'r penwythnosau. Wedi hynny bydd rhaid i fi chwilio am waith go iawn ac fe fydd hynny'n dipyn o her - yn rhoi'r gorau i chwarae rygbi.
  • Er eu bod nhw ddim yn mynychu lle addoliad, mae'r rhan fwyaf o bobol yn 'grefyddol' - Archesgob Cymru yn cael ei ddyfynnu yn Golwg.
  • Mae'n amlwg, yn ôl patrwm hanes; felly mae Duw yn gweithio. Mae yna lanw ac mae yna drai - Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Annibynwyr yn .
  • Un o'r pethau amlwg yw bod llenyddiaeth Gymraeg yn mynd drwy ryw fath o oes aur - Simon Brooks, un o feirniaid Llyfr y Flwyddyn yn 'Golwg'.
  • Mae'r byd yn greulon iawn achos roedd e'n gwneud cymaint o ddaioni - David Evans, Ysgrifennydd Clwb Bowlio Pontypridd am Emyr Glyn Griffith a laddwyd gyda Phyllis Iris Hooper, Peter Briscome a Liam Govier yn .
  • Does gennym ni fechgyn rygbi ddim enw da iawn am arogli'n rhy dda mewn gwirionedd - Doedd Shane Williams ddim am gadarnhau y byddai ei gwmni dilladau chwaraeon SW11 yn gwerthu persawrau hefyd.
  • Fyddwn i byth yn trydaru o fy ffôn - fe fyddwn yn farw. Fy llofrudd: y bos neu fy mam - Gareth Bale yn sôn am ei arferion trydar.
  • Fu dim rhaid imi feddwl am y peth - Einir Griffiths o Langyndeyrn sydd wedi rhoi un o'i harennau i'w mab, Brendan.
  • Rydan ni'n arbennig o brin . . . [o] goelion tywydd lleol a'r dywediadau unigryw oedd yn y chwareli - Dewi Prysor sy'n arwain cynllun geiriau stryd ym Mlaenau Ffestiniog lle bydd chwarter cilomedr o eiriau yn cael eu gosod ar hyd prif stryd y dref.
  • Mae tai bach cyhoeddus yn achubiaeth i bobl hÅ·n ar hyd a lled Cymru; yn rhoi iddynt y rhyddid i fynd o gwmpas yn hyderus - Victoria Lloyd o yn ymgyrchu dros gadw tai bach cyhoeddus yn agored.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.