Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Wedi dod

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 17:37, Dydd Iau, 17 Chwefror 2011

Mae hi wedi dod. Ond o ble daethost ti yn wir. Eitem fach hyfryd am fy hoff flodyn ar Wedi Saith nos Fercher diwethaf - gallwch ei gwylio ar os bu ichi ei cholli.

Ydi, mae'r Lili Wen Fach, neu'r Eirlys yn llonni'n gerddi o'r diwedd a'u petalau fel pe byddent am dincial yn yr awel oer.

Twm Morus, ar Wedi Saith, yn ffafrio yr enw Lili Wen Fach am ei fod meddai yn ymddangos fel enw y byddai [plentyn yn ei roi yn gwbl naturiol ar y blodyn eithriadol o dlws hwn.

"Oll yn eu gynau gwynion," meddai Cynan yn ei delyneg, Eirlysiau ac "yn debyg idd eu Harglwydd yn dod i'r lan o'r bedd."

Ond i'r Lili Wen Fach y canodd bardd arall - allwch chi gofio pwy? - yn y gerdd a ganem yn blant:

O Lili Wen Fach,
O ble daethost ti?
A'r gwynt mor arw,
Ac mor oer ei gri.
Sut y mentrais ti allan
Trwyr eira i gyd
A'r un blodyn bach arall
I'w weld yn y byd?

Synnu wnes i gymaint o wahanol enwau Cymraeg sydd ar y blodyn - a holi pam, gyda'r holl gyfoeth at ein galw bod y rhan fwyaf o bobl yn dal i fynnu eu galw yn Snodrops!

Dyma ichi rai:
Blodeuyn yr Eira,
Cloch Baban,
Cloch Maban,
Clychau Eira,
Eiriol,
Eirlys,
Lili Wen Fach,
Lili Fach Wen,
Tlws yr Eira,
Lilis Gwynion.

Mor bur, mor dyner, mor dringar yn herio llymder milain y gaeaf.
Diolch amdanynt.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.