Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwyn ein byd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:36, Dydd Mercher, 1 Rhagfyr 2010

Yn y ddau bapur dyddiol Saesneg ar gyfer Cymru gwelwyd y bore ma atgyfodi'r hen goel ymhlith rhai mai gair Cymraeg oedd 'penguin' yn wreiddiol.

Yr hen stori yw mai llygriad yw'r enw Saesneg ar yr aderyn o'r hyn alwai morwyr o Gymru yr aderyn pan welsant ef gyntaf, "Pen gwyn".

Dydi hi ddim yn ddamcaniaeth newydd a daw i'r fei unwaith eto y bore ma gyda chyhoeddi fersiwn ar-lein newydd o'r Oxford English Dictionary sy'n ailbedlera'r ddamcaniaeth.

A damcaniaeth fath hyfryd ydi hi hefyd ac yn gwneud perffaith synnwyr.

Oni bai am un peth. Pennau duon sydd gan bengwinod - eu brestiau a rhan o'u gwddf sy'n wyn.

Mae'n deg dweud, felly, y byddai'r morwyr chwedlonol hynny o Gymry wedi bod dipyn nes ati pe byddent wedi eu galw'n Fronwennod.

Efallai y dylen nhw fod wedi mynd i Sbecsefyrs.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.