Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Elfennau'r wledd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:25, Dydd Gwener, 12 Tachwedd 2010

Gyda llifddorau'r gweisg yn llithro'n agored o un i un mae bwrlwm llyfrau'r Nadolig yn prysur olchi drosom ni.

Yr anhawster fydd dewis o blith yr holl lyfrau newydd fydd ar gael ac fel pob Dolig mae cyhoeddiad Cyngor Llyfrau Cymru yn darlunio'r holl gyfrolau sydd ar gael, Gwledd y Nadolig - ac yn y Saesneg, Books from Wales.

Clawr y cyhoeddiad

Mae Gwledd y Nadolig yn darlunio cloriau am dros gant o lyfrau i oedolion a phlant a gyhoeddwyd yn ddiweddar - rhai ohonyn nhw dipyn cyn y Nadolig mae'n wir - a hefyd gemau, DVDs ac yn y blaen.

O frasgyfrif, rhyw ddeugain o'r llyfrau sy'n newydd sbon danlli ar gyfer y Nadolig gyda dwsin o'r rheini yn gofiannau neu hunangofiannau gyda llyfrau Felix Aubel, Ned Thomas a Huw Griffith y tri mwyaf nodedig yn eu plith i'm meddwl i.

Er bod prinder nofelau mae yma ddau begwn gyda Lladd Duw, nofel ddiweddaraf Dewi Prysor ar yr aswy law fel petai a ±Ê¾±±ð³Ùà, nofel hanes gan Gwen Pritchard Jones - am y gantores Maria Stella Petronilla y ferch 13 oed o'r Eidal a briododd Arglwydd Niwbwrch plas Glynllifon ac yntau'n 50 oed - y pegwn arall.

Ond daw cyfle i ddidoli a rhestru goreuon yn nes ymlaen digon yw dweud yn awr y bydd Gwledd y Nadolig yn 16 dalen anhepgor ar gyfer y rhai sy'n dewis ac mae'n cael ei ddosbarthu trwy bapurau bro Cymru yn ystod y mis hwn a'r mis nesaf a'r atodiad Books from Wales yn y Western Mail heddiw, Rachwedd 12.

Mae copïau hefyd ar gael am ddim mewn siopau llyfrau, ysgolion a llyfrgelloedd.

Tenau yw'r wybodaeth am y llyfrau yn y cyhoeddiadau ond maent yn fynegbyst buddiol ac, wrth gwrs, gellir troi at wefan y Cyngor Llyfrau am wybodaeth lawnach.

Hwyl ar y prynu, hwyl ar y darllen . . .

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.