Coroni coronau
Erbyn hyn mae cynllunydd coron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Abertawe fis Mai nesaf wedi cychwyn ar daith arbebnnig o amgylch ysgolion y fro.
Yn ystod ei thaith bydd y gemydd Mari Thomas yn beirniadu ymgais disgyblion i gynllunio eu coron eu hunain.
Mae'r cyfan yn deillio o'r ffaith i ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg Abertawe ddod at ei gilydd i gomisiynu'r goron ar gyfer Eisteddfod 2011 - syniad newydd a gwahanol.
Bydd y rhai sy'n gyntaf, ail a thrydydd yn cael ymuno â hi yn ei stiwdio i fod yn rhan o'r gwaith terfynol gyda seremoni fis Ebrill i drosglwyddo'r goron orffenedig i'r Urdd.
Dywedodd Mari, sy'n berchen ar y cyd gyda'r gemydd Nicola Palterman, The Jewellery Gallery and Workshop yn yr Eglwys Norweg yn natblygiad SA1 Abertawe, iddi fod yn edrych ymlaen yn fawr at gael teithio o amgylch yr ysgolion yn edrych ar waith y disgyblion" medd.
"Dwi'n siŵr y bydd ambell un yn fy ysbrydoli yn fy ngwaith o ddylunio coron Eisteddfod yr Urdd.
"Mae gweithio gyda thalent ifanc bob amser yn brofiad gwych ac fe fydd teithio o amgylch yr ysgolion yma'n rhoi cyfle i mi ddod i adnabod rhai o'r disgyblion yn well cyn iddynt ddod draw i'r stiwdio i gymryd rhan mewn gweithdy," meddai.
- Gwefan y Â鶹Éç ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2011