Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Chwerthin mewn cadair dan goron

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Glyn Evans | 17:14, Dydd Mercher, 13 Hydref 2010

Yr oedd byd llên Lloegr fel ci efo dwy gynffon y bore ma wedi i nofel gomedi ennill gwobr Booker neithiwr - y tro cyntaf i gomedi ennill y gystadleuaeth a fu mewn bodolaeth ers deugain a dwy o flynyddoedd.

Disgrifwyd The Finkler Question gan Howard Jacobson fel astudiaeth "laugh-out-loud" o Iddewiaeth.

Roedd hi'n gystadleuaeth glos â'r bleidlais ond yn 3 - 2 o'i phlaid.

Yr ydym ni yng Nghyymru yn ddigon cyfarwydd â llyfrau ysgafn yn ennill ein prif wobrau llenyddol fel Y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen.

Ond beth am ein dwy wobr lenyddol FAWR arall? Y Gadair a'r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Oes yna unrhyw enghraifft o gwbl o awdl, pryddest neu gerddi doniol neu gomedi yn ennill un ohonyn nhw? Os oes na, maen nhw'n cadw'n ddistaw iawn am y peth.

Alla i ddim cofio am yr un a dydi'r rhestrau o enillwyr sy'n ymestyn yn ôl i 1880 o ddim help yn hynny o beth.

Bydd angen rhyw wyddoniadurwr eisteddfodol ar ddeutroed i'n goleuo. Anfoned air os mai chi yw!

Ac wrth gwrs y mae digon o amser ar ôl i gyflawni'r gamp yn y flwyddyn nesaf gan nad yw'r ymgeision i fod i mewn tan Ebrill 1 nesaf - Dydd Ffwl Ebrill fel mae'n digwydd.

Am y cyntaf, felly, i gyfansoddi dilyniant o gerddi doniol mewn cynghanedd gyflawn ar y testun gogleisiol Clawdd Terfyn neu ddilyniant o gerddi digynghanedd ar y testun Gwythiennau.

Cyfle heb ei ail i greu hanes!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:07 ar 28 Tachwedd 2010, Dimondfi ysgrifennodd:

    Beth am 'Olwynion', a enillodd Coron Eisteddfod Bro Dinefwr 1996?

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.