Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Map placiau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 12:20, Dydd Mawrth, 28 Medi 2010

Wrth eu placiau yr adnabyddir hwy - ac wele ddifyr gan yr Academi yn nodi ar fap o Gymru lle mae placiau wedi eu gosod i goffau llenorion o fri.

O glicio ar y gwahanol leoliadau ar y map mae gwybodaeth gryno am yr awdur dan sylw.
Gwelir rhai o'r placiau coffa mewn eglwysi a mynwentydd a hefyd ar waliau llyfrgelloedd neu dai.

"Mae nifer o gofebau cyhoeddus ledled Cymru er cof am Awduron Cymreig - rhai a fu'n ysgrifennu yn yr ugeinfed ganrif, eraill a fu'n byw mwy na phum can mlynedd yn ôl," meddai'r mewn datganiad.

Ymhlith yr awduron mae Saunders Lewis, Kate Roberts, R. Williams-Parry a T.H. Parry-Williams.

"Nid ar ffurf ysgrifenedig yn unig y mae'r wybodaeth; gwelir ffotograffau, mapiau rhanbarthol, dolenni i ysgrifau coffa, erthyglau, fideos YouTube a gwefannau eraill o ddiddordeb," meddir.

"Mae'r wefan newydd sy'n canu clod i blaciau llenyddol Cymru yn dangos gwir ehangder ein llenyddiaethau. Bydd ymwelwyr a phobl lleol yn canfod llawer o wybodaeth newydd efallai, am sut mae Cymru yn ysgrifennu ei llyfrau," meddai Prif Weithredwr yr Academi, Peter Finch.

Hyd yn hyn, mae Academi wedi creu proffil ar gyfer 58 o blaciau, yn coffáu awduron Cymraeg a Saesneg eu hiaith gan obeithio "codi ymwybyddiaeth" y cyhoedd ac atgoffa cymunedau a thrigolion o'u treftadaeth lenyddol.

Crëwyd 16 o'r placiau gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Rhys Davies a dywed yr Academi ei bod yn croesawu cyfleoedd i weithio gyda sefydliadau, awdurdodau ac ymddiriedolaethau i gynhyrchu placiau ychwanegol.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.