Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Diwrnod bach

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:01, Dydd Mercher, 1 Medi 2010

"Gwnewch y pethau bychain . . ." mae'r dywediad bron a bod yn ystrydeb genedlaethol ond ddydd Gwener yma mae gwahoddiad inni wneud yn union hynny - ar y we.

Mae gwahoddiad wedi ei estyn i bob un ohonom ni i 'wefannu' yn y Gymraeg y diwrnod hwn - os oes y fath air yn bod.

Mae dydd Gwener, Medi 3 2010, wedi ei fedyddio yn ddiwrnod y pethau bychain ac wedi ei neilltuo i ddefnyddio'r Gymraeg ar y we a dathlu'r iaith yn y byd digidol.

Mae rhagor o fanylion - ac awgrymiadau - ar y ddalen hon

Ac wrth gwrs fe fyddem ni wrth ein boddau yn derbyn gennych awgrymiadau beth ellir ei wneud a beth ydych chi'n bwriadu'i wneud.

Achos y gwir amdani yw, os bydd pawb yn gwneud rhywbeth bach mi fydd yn ddiwrnod mawr!

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.