Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Chwarae - a geiriau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:28, Dydd Gwener, 10 Medi 2010

Gavin Henson, John Toshack, anwariaid y sinema, Gavin Henson, Alex Jones, adolygwyr llyfrau a Gavin Henson - cofio'r wythnos a fu trwy nodi rhai o'r pethau a ddywedwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig ers dydd Gwener diwethaf.

A gwahoddiad i chwithau rannu gyda ni y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi. Anfonwch nawr . . .

  • Plant sy'n siarad drwy'r cwbl, sy'n . crensian a ffidlan efo rhyw fagiau papur swnllyd, sy'n chwerthin yn uchel mewn mannau cwbl amhriodol, sy'n tecstio ar eu ffonau, sy'n taflu papurau at ei gilydd, sy'n cicio cefn eich sedd a'ch gyrru'n benwan. Maen nhw'n difetha'r profiad o weld ffilm yn llwyr - Bethan Gwanas yn y yn cwyno am gynulleidfaoedd anystyriol mewn sinemâu.
  • . . . adolygwyr, y mae ganddyn nhw eu hagenda personol eu hunain, achos yn amlach na pheidio hwy eu hunain yw'r agenda honno - Elfyn Pritchard yn gorffen brawddeg sy'n cychwyn â'r geiriau "Y felltith fwyaf i awdur ydi . . ." yn 'WA-w!' mis Medi.
  • Nid Alex Jones sy'n lwcus i gael swydd ar The One Show. The One Show sy'n lwcus i gael Alex Jones - Beca Brown yn mis Medi.
  • Ydi hyn yn sarhad ar y chwaraewyr rhyngwladol Cymreig presennol . . . sgwn i beth mae'r cyhoedd yn ei feddwl?! - Jamie Roberts am y dewis o Gavin Henson i ddangos gwisg newydd y tîm rygbi cenedlaethol.
  • Byddai'n llawer gwell gen i weld Gavin ar y cae rygbi yn ymarfer a chwarae wrth fy ochr na gorfod ei wylio ar y teledu - Shane Williams yn dilyn y newyddion y bydd Gavin Henson yn cystadlu ar 'Strictly Come Dancing'.
  • Y mae'r pwysau arnyn nhw i ddilladu a bwydo eu plant yn iawn yn golygu fod llawer yn cael eu gwthio i fwy o ddyled - Yvonne Rodgers o Barnado's Cymru yn ymateb i'r ffaith na fydd neb mewn gwaith yn un allan o bob pump o deuluoedd Cymru.
  • Yr oeddwn yn anhapus. Mewn pentref bychan does ond raid ichi fod ond ychydig yn wahanol ac yr ydych yn cael eich cam-drin - yr actor Luke Evans am ei fagwraeth ym Medwellte yn fab i Dystion Jehofa.
  • Nid fersiwn Gymraeg o Dave TV ydi hi, er mor neis ydi hwnnw - Hywel Williams AS am S4C.
  • Mae ymateb y Saeson yn ddoniol. Wrth glywed iaith wahanol yn hytrach na gofyn inni pa iaith ydym yn siarad mae eu wynebau yn newid fel pe bai Mediwsa wedi edrych arnt ac ânt i'w cragen. Gystal â dweud mai dim ond Saeon ddylai fod ar y llong - Hafina Clwyd, 'Western Mail', yn Gymraes ar fordaith i Norwy.
  • A chywilydd ar Cheryl Gillan a'r Comisiwn Etholiadol am wneud môr a mynydd o fater sydd mor eithriadol o syml - Madog Mwyn yn yn ymateb i holl helynt llunio ac ail lunio cwestiwn refferendwm y Cynulliad.
  • Yn y pen draw wrth gwrs, mae hyn i gyd yn ddibynnol ar ras a thrugaredd Duw - Mervyn Phillips, Cadeirydd Adran Eglwys a Chymdeithas yn ailddatgan cefnogaeth i gael mwy o bwerau deddfu i Gymru.
  • Mae'n adlewyrchiad trist ar leiafrif o yrwyr sy'n anwybyddu'r gyfraith - Edmund King, llywydd yr AA, yn ymateb i arbrawf yn Sir y Fflint i osod camera yn ffyn dynion lolipop i dynnu lluniau gyrwyr sy'n goryrru - gan gyflwyno gair newydd i'r iaith, Lolicam.
  • Y gwir yw bod nifer y cyn filwyr mewn carchardai yn y Deyrnas Gyfunol yn gywilyddus o uchel . . . mae'n hollbwysig ein bod yn mynd at wraidd y broblem - Elfyn Llwyd AS.
  • Bu'n gofalu [am y tîm pêl-droed rhyngwladol] ers Tachwedd 2004 ac a ydym wedi datblygu? Dydw i ddim yn siŵr ein bod ni - Iwan Roberts am John Toshack ddydd Sul diwethaf.
  • Fel Cymro balch gyda dros 50 o gapiau wrth ei enw fe fyddwn i'n amlwg yn hoffi rhoi cynnig ar y job fy hun - John Hartson bore Iau.
  • Efallai nad yw hyn yn swnio'n rhywbeth cadarnhaol i'w ddweud - ond pe byddai'r canlyniadau yn mynd yn erbyn Cymru fe fyddai'n well gen i pe byddai hynny yn digwydd a minnau yn dal â gofal. Byddai hynny wedi bod yn well i bawb - John Toshack, ddoe, yn dadlau y byddai wedi hoffi cael dwy gêm arall yn rheolwr Cymru.
  • Wnaeth fy ngŵr ddim siarad am tua thri diwrnod ar ôl inni ganfod fy mod yn disgwyl efeilliaid - Natasha Marsh y gantores opera.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.