Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nia 'Nglynebwy - Llun

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 10:46, Dydd Mawrth, 3 Awst 2010

Mae Nia Lloyd Jones Radio Cymru yn sibrwd o gefn llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent gydol yr wythnos.

Un o'r cystadlaethau cyntaf ar y llwyfan bore ma oedd yr unawd llinynnau dros 19 oed, a'r trydydd i ymddangos ar y llwyfan oedd Lawrence Huxham o wlad Belg.

Laurence

Mae ganddo gysylltiadau teuluol a de Cymru ac mae o'n dysgu Cymraeg ers pum mlynedd. Braf iawn oedd cael sgwrs ac ychydig o'i hanes, a phwy a ŵyr ella y gwela i o eto yn nghyffiniau Bangor gan ei fod yn bwriadu mynd i astudio yno yn yr hydref.

Tybed ai Lawrence ydi'r cystadleuydd sydd wedi teithio bellaf i gystadlu eleni?

Roedd hi'n fore prysur iawn i Celyn Cartwright o Ddinbych, gan ei bod hi'n rhedeg nôl a blaen rhwng y rhagbrofion a chefn y llwyfan. Roedd hi'n llefaru heddiw ac yn cael ei hyfforddi gan Leah Owen. Ia - dyna chi newid bach - Leah yn hyfforddi llefarwyr yn ogystal â chantorion, ac yn amlwg yn cael hwyl arni.

Celyn

Waeth i mi gyfaddef fy mod wedi gwirioni'n lan ar lais Rhys Meilyr ac unwaith eto eleni cafodd eisteddfod ardderchog.

Y llynedd enillodd ddwy wobr gyntaf ac eleni - tair! Mae o hefyd ar ei ffordd nôl i Euro Disney ar ôl ennill yn yr Urdd eleni, a chwarae teg iddo, mae o wedi addo mynd a fi hefo fo ... yn y cês!


Cymeriad arall yn y cystadlaethau dan 12 oed oedd Cai Fon Davies. Mae Cai yn ddeg oed ac ar ôl iddo orffen canu'r alaw werin fe wnaeth o chwythu sws at y beirniad a dyma fi'n ei holi o wedyn ynglŷn â hyn, a'i sefyllfa garwriaethol bresennol.

Dyma'r creadur bach yn cyfadde'n syth bod ei gariad newydd ei ddympio drwy gyfrwng llythyr oedd yn cynnwys y datganiad anfarwol it's over!! Ngwas i!

Nia a'r clownsMae rhywun yn cael profiadau amrywiol iawn yn y Steddfod ma a heddiw fe ges i sgwrs hefo criw o glowns o Ffynnonbedr ger Llanbedr-pont-Steffan. Roedden nhw'n cystadlu yng nghystadleuaeth y dawnsio creadigol i grŵp, a phob un wedi cael paentio ei wyneb yn wahanol i bob un arall.

Sôn am gymeriadau, a phob un yn awchu am gael mynd i wario'u pres o gwmpas y maes.

Mae camu ar y llwyfan mawr 'na yn ddigon i godi ofn arna i, ond mae gen i gydymdeimlad mawr â Gwenllian Llyr oedd yn cystadlu ar y Rhuban Glas Offerynnol dros 19 oed heddiw.

Pan oedd hi ar ganol perfformio torrodd un o'r tannau, ond fe gariodd yn ei blaen am ychydig cyn gorfod stopio a mynd oddi ar y llwyfan i chwilio am dant arall.

Dw i'n meddwl y byddwn i wedi rhedeg am adref, ond fe gariodd Gwenllian yn ei blaen yn hollol bwyllog, a gwenu drwy'r cwbl.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.