Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nia 'Nglynebwy - Iau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 12:51, Dydd Gwener, 6 Awst 2010

Mae Nia Lloyd Jones Radio Cymru yn sibrwd o gefn llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent gydol yr wythnos.

Nia, Ceri ac Elen
Diwrnod prysur iawn heddiw, felly mae'n dda mod i wedi cael noson o gwsg - yn wahanol i Elen a Ceri oedd yn cystadlu ar y ddeialog agored bore ma. Chwarae teg i Elen - fe aeth hi i'w gwely am dri bore 'ma, ond wnaeth Ceri ddim cyrraedd nôl i'w charafán hi tan chwarter wedi saith, ac roedd hi ar lwyfan y pafiliwn am ddeg!! Llosgi'r gannwyll go iawn!

Nia, Angharad a Steffan
Braf iawn ydi gweld Steffan Rhys Hughes nôl yn cystadlu unwaith eto, ar ôl seibiant bach i adael i'r llais ddatblygu. Mae o'n amlwg wrth ei fodd yn cystadlu ac wedi cael llwyddiant mawr yma eleni - dwy wobr gyntaf, yn ogystal a'r ail wobr ar y ddeuawd hefo Angharad.

Un arall oedd wrth ei bodd ar y llwyfan heddiw oedd Julia Hawkins - enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn. Roedd hi'n wên o glust o glust ar ôl derbyn cymeradwyaeth y gynulleidfa ac yn hynod o falch ei bod hi wedi ennill yma eleni, a hithau'n byw yng Nghrughywel.

Nia a'r baswyr
Rhai da 'di'r baswyr. Y cyntaf ar y llwyfan oedd Huw Euron (Darren Pobl y Cwm). Mae o newydd briodi, ac yn mynd ar ei fis mêl ddydd Sul i Las Vegas a Mecsico.

Mae'n rhaid bod ei wraig, Meinir, yn ferch amyneddgar iawn. Dyn y waffles ddaeth wedyn sef Kees Huysmans (Waffles Tregroes), a'r peth cyntaf ddywedodd o wrtha i oedd 'pam yn y byd dwi'n gwneud hyn?!'. Trystan Lewis - y llyfrwerthwr ddaeth wedyn, ac mi roedd Hywel Gwynfryn wedi gwirioni'i hefo'i dei o - tei streips o 'Saville Row'. Mae'n rhaid bod y busnes llyfrau 'ma yn talu'n dda...

Mae ambell i gontralto yn cael bywyd braf hefyd e.e. Eleri Owen Edwards Cil y Cwm. Gwraig fferm ydi Eleri, ac mae hi a'i gwr Aled ar eu ffordd i Mecsico ym mis Hydref i gynhadledd gwartheg Limousin, ac ar ol dod adref, mae nhw'n mynd i ganu ar long bleser! Ia ... mae Aled yn ganwr o fri hefyd ac yn gyn enillydd y rhuban glas.

nia-cledwyn.jpg
Dyn prysur iawn ydi Cledwyn Ashford. Mae o yn ei got oren o gwmpas y cefn yn sicrhau bod y stiwardiaid yn hapus wrth ei gwaith. Mae o'n un o'r cannoedd sydd yn gwirfoddoli i stiwardio ac arolygu bob blwyddyn, a diolch iddyn nhw i gyd am eu gwaith. Heb stiward, heb steddfod. Ond mae'n rhaid cael seibiant bach weithiau yn does i weld be sydd yn digwydd yn y byd mawr tu allan.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.