Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gweledigaeth Llanofer

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Gwyn Griffiths | 07:35, Dydd Mercher, 4 Awst 2010

Allan James, gynt o Adran Gymraeg Prifysgol Morgannwg, draddododd Ddarlith Goffa Hedley Gibbardd i Gymdeithas y Cyfieithwyr brynhawn ddoe.

Rhoddodd ddarn o hanes difyr iawn am berthynas Arglwyddes Llanofer, Arglwyddes Elizabeth Brown Greenly (Llwydlas) a Maria Jane Williams, Aberpergwm.

Yr oedd y tair, ac Anne Williams, chwaer Maria Jane Williams, wedi dod ynghyd ym 1836 a wedi cinio yr oedd Maria Jane, a oedd yn ôl yr hanes yn berchen llais arbennig o dlws, wedi canu amryw o alawon Cymraeg.

Yn ôl Allan yr oedd perfformiad Maria Jane wedi sbarduno diddordeb Arglwyddes Llanofer yn yr hen alawon Cymraeg. Y flwyddyn wedi hynny yr oedd cystadleuaeth am gasgliad o alawon Cymraeg yn Eisteddfod Y Fenni.

Arglwyddes Llanofer oedd Eisteddfod Y Fenni, a hi mae'n debyg oedd yn gosod y testunau. Darparwyd y wobr gan Llwydlas ac fe'i henillwyd gan Maria Jane Williams!

Ond dyma wir weledigaeth Arglwyddes Llanofer. Mynnodd fod yn rhaid cael y geiriau Cymraeg gwreiddiol gyda'r alawon. Yr oedd yn arfer mewn gwledydd eraill i sgrifennu geiriau newydd - mwy parchus yn fynych - i'r hen alawon.

Ni fynnai Arglwyddes Llanofer hynny a bu raid i Maria Jane Williams fynd i dipyn o drafferth i gael y geiriau traddodiadol yn achos ambell gan, yn enwedig cyn cyhoeddi'r gyfrol ym 1844.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.