Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dyfyniadau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:14, Dydd Gwener, 27 Awst 2010

Mynyddwr GWiRiON, dirgelwch ysbiwr, llwyddiant ysgolion bach, tail tatws - cofio'r wythnos a fu trwy nodi rhai o'r pethau a ddywedwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig ers dydd Gwener diwethaf.

A gwahoddiad i chwithau rannu gyda ni y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi. Anfonwch nawr . . .

  • iDiot - pennawd yn y 'Daily Post' am ddringwr aeth ar goll yn Eryri gyda chymorth ei iPhone yn unig.
  • Mae'n wirioneddol erchyll - mae hon yn ardal gymysg iawn o fancwyr a gwleidyddion. Yr ydw i wedi siarad efo cymydog sy'n gwybod dim - Jason Hollands, gweithiwr 41 oed yn Ninas Llundain sy'n byw ger y tÅ· lle darganfuwyd corff yr ysbïwr Gareth Williams sy'n hanu o Gaergybi.

  • Ai oherwydd bod safon dysgu llenyddiaeth Gymraeg heb gyrraedd y safon dderbyniol yn ein hysgolion, uwchradd yn bennaf, y mae'n rhaid i rai siroedd, yn enwedig Gwynedd, alw ar nifer o'r hyn a elwir yn feirdd cenedlaethol i ddarlithio ar wahanol agweddau o lenyddiaeth Gymraeg? - llythyr dienw yn y 'Daily Post', Awst 25.
  • Roeddech chi'n holi pam nad oes cystal blas ar datws newydd. Tybed ydi hyn yn rhywbeth i'w wneud â'r gwrtaith sy'n cael ei ddefnyddio yn y rhesi tatws? Tail gwartheg fyddai fy Nhad yn arfer ei ddefnyddio - Bethan Wyn Jones, 'Daily Post Cymraeg'.
  • Mae pob Cymro sy'n gwerthu i'r Trust yn fradwr - Wil Williams, ffermwr o Aberdaron, yn gwrthwynebu yn 'Golwg' werthu tir i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
  • Wnaeth o ddim drwg iddyn nhw, mae'r ddau wedi graddio ac mewn gwaith ac mae Cadi'n ôl yn gweithio'n lleol - Bryn Fon yn canu clodydd ysgolion bach. Aeth ei ddau blentyn i ysgol fach Nebo ger Caernarfon.
  • Hon, yn sicr, fydd fy ymgyrch olaf ac rwy'n teimlo bod gen i rywbeth i'w brofi - John Toshack yn wynebu gemau Pencampwriaeth Ewrop 2012.
  • Bachgen bach yn cynorthwyo ei dadcu i godi tatws. Meddai, 'Tacu, yr hyn fi ffili deall yw pam eich bod chi wedi'u claddu nhw yn y lle cyntaf - 'Briwsion' yn 'Y Tyst'.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.