Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Chwilio am feirdd!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:39, Dydd Sul, 1 Awst 2010

Un sydd yn ei elfen yn eisteddfodau ardaloedd y de ddwyrain ydi Dafydd Islwyn Ysgrifennydd Cymdeithas Barddas - yr oedden ni yn yr ysgol efo'n gilydd ond stori, os nad straeon, arall yw hynny.

Dafydd Islwyn

Hon, yng Nglynebwy, lle mae'n gadeirydd y Pwyllgor Llên, yw'r bedwaredd iddo gael ei recriwtio ar ei chyfer - gwelodd wasanaeth yng Nghasnewydd 1988, yng Ngwm Rhymni 1990, wedyn yng Nghasnewydd eto 2004 ac yn awr ym Mlaenau Gwent.

Ar hyn o bryd, yn ogystal a llywio pwyllgor llên, mae o ym mhen ei helynt yn paratoi casgliad o englynion buddugol yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr ugeinfed ganrif.

Cyfrol i ddilyn Cant o Englynion a fu'n hynod boblogaidd.

Ond cyfaddefodd ei fod mewn rhywfainty o drafferth dod o hyd i hanes dau fardd y mae'n cynnwys eu gwaith yn ei gyfrol newydd:

Eldon a fu'n fuddugol yn Y Barri yn 1920 a J W Jones a fu'n fuddugol yng Nghastell-nedd 1934.

"Yr oedd Eldon yn byw yn Llundain, dwi'n deall, ond ar wahân i hynny ychydig iawn o wybodaeth sydd amdano fo a J W Jones," meddai Dafydd.

Os gwyddoch chi amdanynt anfonwch i ddweud . . .

Neu piciwch draw i weld Dafydd - fe fydd ym mhabell Barddas - neu yn y Babell Lên sydd gyferbyn. Lleoli sy'n golygu ei fod yn ei seithfed nef . . .

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.