Cadw draw
Mae'n anodd gwneud ei feddwl i fyny ai arwydd o draheustra ynteu arwydd o ddirmyg oedd penderfyniad Cyngor Celfyddydau Cymru yn gwrthod anfon rhywun i gymryd rhan mewn rhaglen radio yn trafod effaith ei ar y theatr Gymraeg.
Dyna bwnc trafod Wythnos Gwilym Owen ar Â鶹Éç Radio Cymru ddoe gyda phedwar o gynrychiolwyr gwahanol gwmnïau yn y stiwdio a thri sylwebydd.
Mae adolygiad y Cyngor yn gyhoeddiad pellgyrhaeddol sy'n haeddu ystyriaeth drylwyr ac, yn wir, mi gafodd hynny ar y rhaglen.
Ond mae rhywun yn methu'n glir â deall nad oedd y Cyngor ei hun "yn gallu cynnig unrhyw un ar yr achlysur yma" i gymryd rhan.
Dim rhyfedd i Roger Owen o Adran Ddrama Prifysgol Aberystwyth gymryd ato a dweud ei bod "yn anhygoel braidd" na chytunodd neb o'r Cyngor ddod.
"Fe ddylai fod na rywun o Gyngor y Celfyddydau yma er mwyn medru siarad mwy ynglŷn â'r hyn sydd yn y ddogfen," meddai.
Y diffiniad o bregethwr mewn pulpud ers talwm oedd, "Rhywun chwe troedfedd uwchlaw beirniadaeth" ac mae rhywun yn dechrau amau a yw'r un traha yn ffrydio trwy wythiennau Cyngor y Celfyddydau a'i fod mewn peryg o anghofio mai yna i'n gwasanaethu y mae o nid i dra-arglwyddiaethu drosom ni.
Gweithredu ar ein rhan ac er ein lles nid gosod y ddeddf i lawr.
"Mae pobol ei ofn o fel ofn Duw," meddai'r dramodydd Gareth Miles, un arall o gyfranwyr y rhaglen, wrth sôn am berthynas byd y theatr â'r Cyngor.
"Cyngor y celfyddydau sy'n dweud . . . ac mae eisiau eu herio nhw," ychwanegodd.
"Ac mae'n warthus nad oes dim cynrychiolydd yma i siarad efo ni mwy na fasa chi'n disgwyl i Dduw ddod i siarad efo chi. Dyna fo, mae'r ddeddf wedi ei gosod a phawb i ufuddhau," meddai gan ddisgrifio'r Cyngor fel corff "cyfrin iawn sydd uwch ein pennau ni".
Mae'n siŵr gen y bydd y Cyngor yn cuchio rhag beirniadaeth o'r fath - ond beth mae rhywun i'w feddwl pan fo corff sydd ar fin cymryd penderfyniadau pwysig fydd yn effeithio arnom yn gwrthod dod i siarad amdanyn nhw efo ni?
Byddai'r doeth wedi croesawu'r cyfle a gynigwyd i egluro a chyfiawnhau - ond nid y duwiau anghwrtais hyn.
Drama? Mae'n fwy fel ffars.