Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Buches Gwent

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 13:05, Dydd Gwener, 30 Gorffennaf 2010

Mae yma geffyl ac mae yma wartheg - ond hyd yn hyn does yna ddim cowboi i'w weld yn unman!

Wel nid yn yr ystyr llythrennol beth bynnag.

Ceffyl metal
A dydi'r ceffyl a'r gwartheg ddim yn rhai sy'n mynd i achosi llawer o drafferth i neb ychwaith.

Metel yw'r ceffyl ac mae'n iawn sefyll tu ôl iddo heb ofni cic.

Ac wrthi'n cael eu peintio yr oedd y tair buwch gan ddwy o swyddogion Cyngor Celfyddydau Cymru.

Cyrhaeddodd y gwartheg faes yr Eisteddfod yn syth o'r 'Royal Welsh' yn Llanelwedd ac wedi cael côt eisteddfodol o baent bydd pob math o wybodaeth a ffigurau am y celfyddydau yn cael eu gosod arnyn nhw ac fe fyddan nhw wedyn yn cael eu gadael mewn gwahanol leoedd ar y Maes.

Cadwch eich llygaid yn agored amdanyn - mae yna rywbeth i'w ddysgu gan fuwch hyd yn oed fe ymddengys!
Gwartheg Cyngor Celfyddydau Cymru

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.