Dyddiadur Nia - dydd Sadwrn
- Yn cyfarfod pobl gefn llwyfan i Â鶹Éç Radio Cymru mae Nia Lloyd Jones. Yn ystod yr wythnos bu'n rhannu ei phrofiadau ar blog 'Cylchgrawn'. DYma ei chyfraniad olaf o Eisreddfod yr Urdd.
Diwrnod yr aelwydydd oedd hi heddiw a braf gweld yr enwau cyfarwydd yn ogystal â rhai newydd gefn llwyfan.
Roedd Aelwyd Llangwm yno yn eu crysau cochion, ac yn eu plith roedd Lowri Hughes sy'n gorffen cystadlu hefo'r aelwyd eleni gan y bydd hi dros yr oed erbyn flwyddyn nesaf.
Mi wnes i gyfarfod sawl un arall yn yr un sefyllfa hefyd, ac ambell un yn naturiol yn ddigon emosiynol.
O ran yr aelwydydd newydd, roedd o leiaf dwy ohonyn nhw yn lleol - sef Aelwyd Aeron ac Aelwyd Emlyn.
Gadael y llwyfan
Mae'n ddifyr iawn gweld ymateb y cystadleuwyr wrth iddyn nhw adael y llwyfan, a phan ddaeth Enfys Hatcher o Aelwyd Pantycelyn oddi ar y llwyfan y peth cyntaf ddywedodd hi wrthyf oedd, "Ych a fi! Pam dwi'n gwneud hyn?!"
Ond o fewn pum munud roedd 'na wên ar ei hwyneb ac roedd y rhyddhad yn amlwg.
Safon uchel
Mae sawl un wedi cyfeirio at safon uchel yr offerynwyr unwaith eto eleni a chawson ni ddim ein siomi yn y gystadleuaeth Unawd Offerynnol dan 25 oed.
Steffan Morris oedd yn drydydd. Mae o'n chwarae'r 'cello' ac ar fin gadael Ysgol Yehudi Mennuhin, a'i fryd ar fynd i astudio wedyn i Vienna.
Cai Isfryn oedd yn ail hefo'r trymped ac mae o ar fin mynd ar daith berfformio i'r Eidal.
Jocelyn Freeman ddaeth i'r brig gyda'i pherfformiad ar y piano ac fe dorrodd un o'r nodau / tannau yn ystod y perfformiad!
Theatrig
Teleri Mair Williams o Aelwyd yr Ynys enillodd gystadleuaeth y Cyflwyniad Theatrig Unigol.
Mae Teleri yn astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Keele ond wrth ei bodd hefyd yn perfformio ac yn cystadlu hefo Aelwyd yr Ynys.
Yn wahanol i'r arfer, doedd ganddi ddim mymryn o golur ar ei hwyneb heno ar y llwyfan a hithau'n cyfaddef wedyn ei bod yn teimlo'n noeth iawn hebddo.
Sioe gerdd
Elgan Llyr Thomas enillodd gystadleuaeth yr Unawd o Sioe Gerdd.
Mae o'n fyfyriwr yn y Coleg Cerdd ym Manceinion, ac mae Huw Foulkes oedd yn cyfeilio iddo - yn byw yng Nghaerdydd.
Doedd y ddau ddim wedi cael llawer o gyfle i ymarfer hefo'i gilydd, ond ta waeth am hynny, fe hawliodd Elgan y llwyfan a'r wobr gyntaf.
Corau aelwyd
Tro'r corau aelwyd oedd hi wedyn, ac ar ol y cystadlu mi es i i mewn i'r pafiliwn ar gyfer y canlyniadau.
Iwan Griffiths oedd yn arwain, ac wrth iddo gyhoeddi enwau'r enillwyr, dyna lle'r oeddwn i yn rhedeg o un pen o'r pafiliwn i'r llall i gael gair hefo'r enillwyr! Pwy sydd angen mynd i'r gampfa? Wir i chi, mae gweithio gefn llwyfan yn Eisteddfod yr Urdd llawn cystal ac yn llawer mwy pleserus!
A dyna ni - Eisteddfod arall wedi dod i ben. Diolch i bawb fu mor barod i sgwrsio, a llongyfarchiadau mawr i'r holl gystadleuwyr. Dw i'n edrych ymlaen yn barod at flwyddyn nesaf!