Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dyddiadur Nia: dydd Mercher

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 08:46, Dydd Iau, 3 Mehefin 2010

Nia lloyd Jones

  • Yn cyfarfod pobl gefn llwyfan i Â鶹Éç Radio Cymru mae Nia Lloyd Jones. Yn ystod yr wythnos mae'n rhannu ei phrofiadau ar blog 'Cylchgrawn' o'r Eisteddfod.


Dydd Mercher
Braf iawn oedd cael gair hefo Elin Kelly bore ma o Ysgol Gyfun Rhdywaun yng nghystadleuaeth yr unawd telyn.

Dyma'r tro cyntaf iddi fod ar y llwyfan mawr a'r peth cyntaf ddywedodd hi ar ôl dod oddi yno oedd ei bod hi isio mynd nôl eto! Mae brwdfrydedd y cystadleuwyr 'ma yn heintus.

O Affrica
Un o uchafbwyntiau'r dydd i mi oedd cyfarfod Temalangeni Diamni o Ysgol Uwchradd Eifionydd.

Holi Temalangeni Diamni

Roedd hi'n cystadlu ar y llefaru i ddysgwyr blwyddyn 7-9. Symudodd o Affrica bum mis yn ôl ac fe lwyddodd i ddysgu Cymraeg o fewn wyth wythnos!!

A dyma hi heddiw ar lwyfan cenedlaethol yr Urdd. Merch arbennig iawn, a thalentog gan ei bod hi hefyd yn arfer chwarae pel fasged i dim cenedlaethol Swasiland.

Tair ysgol fach
Cystadleuaeth dda oedd yr un i bartion cerdd dant (adrannau) a thair ysgol fechan ar y llwyfan sef Adran y Parc, Adran Bentref Ysbyty Ifan ac Adran Llangwm.

Llangwm

Roedd na gryn emosiwn gefn llwyfan oherwydd bod dyfodol yr ysgolion hyn yn y fantol, ac fe welwyd hynny ar y llwyfan hefyd wrth i Eryl Roberts - sy'n rhiant yn Llangwm neidio ar y llwyfan gyda dau arall i dynnu sylw'r gynulleidfa at sefyllfa'r ysgolion hyn a galw am gefnogaeth yr Urdd

Ffliwtio
Nia Elizabeth Pugh o Adran Brithdiwr ddaeth i'r brig ar yr Unawd Chwythbrennau bl 7-9. Ar hyn o bryd mae hi'n ddisgybl yn Ysgol Gerdd Chethams ym Manceinion ac yn dychwelyd adref am benwythnos ar ôl cyfnod o dair wythnos yno ar y tro.

Y ffliwt ydi ei offeryn hi ond roedd hi mewn dipyn o bicil bore ma - oherwydd bod y ffliwt yn sticio! Diolch byth - roedd ei hen ffliwt ar gael ac fe gafodd y wobr gyntaf!

Llywydd
Caryl Lewis
Caryl Lewis oedd llywydd y dydd heddiw. Mae'n debyg iddi gystadlu'n unigol yn yr Urdd pan oedd hi'n saith oed ond heb gael llwyfan. Pwy oedd y beirniad y diwrnod hwnnw? Neb llai na'i mam yng nghyfraith erbyn hyn!

Maenclochhog
Mae enw Adran Maenclochog yn enw cyfarwydd iawn ar ddydd Mercher Eisteddfod yr Urdd ac oedd - roedd na gynrychiolaeth dda yma eto eleni. Mae Marlyn Lewis wedi hyfforddi cannoedd o'r plant yno, ond braf iawn oedd gweld dau ifanc sydd hefyd wedi cael blas ar hyfforddi - sef Angharad Edwards a Sion Jenkins.

Mae'r ddau yn ddwy ar bymtheg oed a nhw oedd yn gyfrifol am y grwp llefaru.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:00 ar 3 Mehefin 2010, Ifan Thomas ysgrifennodd:

    Wedi cwrdd a ti cefn llwyfan dydd Mercher gyda Adran Llanfihangel-ar-arth, fi oedd yr unig fachgen, a heddi gyda parti bechgyn Dyffryn Teifi, oes gyda ti unrhyw lluniau o'r adran neu'r parti bechgyn

  • 2. Am 09:19 ar 4 Mehefin 2010, Glyn Evans Author Profile Page ysgrifennodd:

    Tyrd yn ôl i weld y blog hwn yn nes ymlaen heddiw - Nia

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.