Dyddiadur Nia: dydd Llun
- Yn cyfarfod pobl gefn llwyfan i Â鶹Éç Radio Cymru mae Nia Lloyd Jones. Yn ystod yr wythnos bydd yn rhannu ei phrofiadau ar blog 'Cylchgrawn' o'r Eisteddfod. Dyma ei chyfraniad cyntaf.
Dydd Llun
Wel dyma ni unwaith eto! Blwyddyn arall wedi mynd heibio, a channoedd o gystadleuwyr yn anelu am y rhagbrofion yma yn Llanerchaeron, a finna wedyn yn cael y fraint o holi hwn a llall gefn llwyfan.
Wrth grwydro'r maes ben bore, fe ges i sgwrs gyda sawl grŵp o rieni nerfus oedd yn sefyllian tu allan i'r rhagbrofion ac fel rhiant fy hun dwi'n gwybod yn union sut oedden nhw'n teimlo.
O'n i'n swp sâl yn rhagbrawf unawd piano - yn gwrando ar Elin yn perfformio ac yn gwybod yn iawn hefyd na fedrwn i byth gyflawni'r un gamp fy hun.
Ymhlith y mamau nerfus ar y maes, mi ges i sgwrs hefo tair o Ysgol Gymraeg Llundain - y brifathrawes, Menna George, y ddarlledwraig Sioned Wiliam a'r gantores, Cerys Matthews!
Roedd Cerys yno i gefnogi ei merch yn y gystadleuaeth grŵp dawnsio gwerin cynradd, ac wrth ei bodd eu bod nhw yma yn cystadlu.
Roedd ganddyn nhw barti canu hefyd, ond pan ofynnais i Cerys os mai hi oedd wedi bod yn hyfforddi - yr ateb ges i oedd "Not guilty"!
Cerys, Nansi a Beca
Nôl a fi wedyn i gefn llwyfan, sôn am gymeriadau mewn ambell i gystadleuaeth! Dyna ichi'r unawd gerdd dant dan saith oed a thair ar y llwyfan - Cerys, Nansi a Beca.
Wnaethon nhw ddim stopio siarad!! Roedd Nansi wedi gwirioni ei bod wedi cyrraedd y llwyfan, a hithau'n gwisgo dwy freichled lwcus.
Mi wnes i ofyn gawn i fenthyg un ohonyn nhw ond fe ges i ateb reit bendant - a dwi'n dal yn ddi freichled!
Cafodd Ysgol Gynradd Llanerfyl ddiwrnod llwyddiannus iawn heddiw - un wobr gyntaf a sawl gwobr arall. Mae'n werth nodi mai ysgol fechan ydi hon, - 50 o blant yn unig a nifer fawr ohonyn nhw yn cystadlu yma eleni.
Unawd piano
Nol at yr unawd piano, a'r tri ar y llwyfan - Charlie Lovell Jones, Nest Jenkins a Gwenno Morgan yn cyrraedd yr uchelfannau o ran safon.
Mae'n anodd credu ein bod ni'n sôn am blant dan 12 oed. Charlie ddaeth i'r brig - hogyn hynod o ddawnus a hoffus, sydd yn treulio tua dwy awr a hanner yn ymarfer bob dydd!!
Sôn am hoffus, roedd hi'n braf cael sgwrs hefo Eilir Pryse unwaith eto.
Dwi'n cofio Eilir yn cystadlu ar y llefaru rai blynyddoedd yn ôl ond erbyn hyn mae o hefyd yn gerddor o fri ac fe enillodd o gystadleuaeth eleni i gyfansoddi ffanffer i gyfarch y buddugol yn seremonïau'r Urdd yr wythnos hon.
Mae pobl ddawnus fel hyn yn bobl brysur - ac mae o wedi bod yn brysur yn cyfeilio ar y ffidil yn y sioe Plant y Fflam ac mae o hefyd yn cystadlu ar y llefaru ddiwedd yr wythnos.
Gwartheg perffaith - bron
Un o'r profiadau mwyaf rhyfedd ges i heddiw oedd cael fy nghornelu gan griw o wartheg Friesans!! Criw o wartheg o Ysgol Pen Barras oedden nhw - yn cystadlu hefo'r parti cerdd dant oed cynradd. A son am siaradwyr da!
Pan ofynnais i iddyn nhw roi marc i'w perfformiad allan o ddeg, fe fuon nhw'n trafod yn hir cyn dewis naw a hanner. Dyma fi'n holi wedyn am yr hanner marc arall, ac ateb Dyfan, un o'r criw, oedd "Does neb yn berffaith!" Ateb doeth gan un mor ifanc.
Gan fy mod i wedi sôn am Ysgol Llanerfyl yn barod, mae'n rhaid imi hefyd grybwyll Ysgol Bro Tryweryn fu'n cystadlu heddiw - ar y dawnsio gwerin.
Dim ond 26 disgybl sydd yn yr ysgol, ac roedd bron bob un ohonyn nhw ar y llwyfan heddiw! Dyna gamp.
Diwrnod da iawn a dechrau addawol i'r wythnos.