Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hen wragedd a chwyn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:50, Dydd Mawrth, 11 Mai 2010

Yr wythnos diwethaf mi wnes i osgoi o fwriad gyfeirio yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol at yr etholiad cyffredinol rhag sathru unrhyw gyrn gwleidyddol yn anfwriadol neu'n fwriadol.

Erbyn hwn, wrth gwrs, mae rhwydd hynt i rywun ddweud yr hyn a fyn heb ofni dylanwadu ar y canlyniad yn lleol, yn genedlaethol neu'n Brydeinig.

A dyma fi yn mentro'n syth i barlwr ffrynt Mrs Gillian Duffy yn Rochdale a sylwi iddi hi ddweud wrth y Daily Mail mai'r hyn oedd wedi gwir darfu arni hi oedd i Mr Brown gyfeirio ati fel, "That woman".

Disgwyliai hi iddo ei disgrifio fel "That lady" o leiaf, meddai.

Aeth darllen hynny a fi'n syth yn ôl i mhlentyndod a'r drefn a gefais pan atebais gnoc ar y drws un diwrnod a mynd i ddweud wrth fy rhieni fod yno hen ddynes wedi galw i'w gweld.

Er bod y ddynes yn y drws yn ei saithdegau siwr o fod, buan iawn y dysgais nad fel Hen ddynes y dylid cyfeirio ati ond fel Hen wraig.

Ystyrrid yr ymadrodd Hen ddynes yn gwbl sarhaus. Byddai Dynes hen, ar y llaw arall, wedi bod yn fwy derbyniol ond nid mor boleit a Hen wraig.

Yr ydw i wedi sylwi i'r gwahaniaeth astrus hwn fynd ar goll bron iawn yn llwyr erbyn heddiw a rhywun yn clywed yr ifanc yn cyfeirio byth a hefyd at ryw Hen ddynes neu'i gilydd.

Ac yr ydw innau wedi bod yn holi a oedd y gwhaniaeth ystyr cywrain hwn yn rhywbeth a fodolai mewn rhannau eraill o'r wlad ynteu ond yn ein hardal ni - neu hyd yn oed ein tÅ· ni.

That woman, that man, yr hen ddynes na, yr hen ddyn na, yr hen wraig yna, yr hen ŵr yna.
Clandrwch dros y peth ac anfon gair.

Yn y cyfamser, y newyddion yw i Lafur gadw Rochdale er i'r bleidlais ogwyddo tuag at y Rhyddfrydwyr Cymdeithasol,

Yr hen dacla.
Na, na, dim ond tynnu coes - mae rhai o'm ffrindiau gorau yn hen Ryddfrydwyr . . .

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.