Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mewn chwINC

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 13:00, Dydd Sadwrn, 24 Ebrill 2010

Mae dwy swydd i'w llenwi a ddylai fod o ddiddordeb i'r golau yn eu Beibl sydd ag inc yn eu gwaed.

Mae dau o'n papurau crefyddol Cymraeg, a'r yn chwilio am olygyddion newydd - y naill yn gyhoeddiad deufisol yr Eglwys yng Nghymru a'r llall yn wythnosolyn yr Eglwys Bresbyteraidd.

Mae'n gyd-ddigwyddiad bod golygyddion y ddau yn gadael eu cadeiriau yr un pryd a'i gilydd, Huw Tegid sydd wedi gweddnewid Y Llan dros y tair blynedd ddiwethaf a John Gruffydd Jones y mae ei sylwadau golygyddol craff yn gymaint o gaffaeliad i'r Goleuad.

Ef yn wyddonydd, yn llenor, yn feirniad ac yn fardd o fri a enillodd y Fedal Ryddiaith yn 1981 a'r Goron yn 1987 heb sôn am nifer o wobrau llenyddol eraill.

Huw Tegid, wedyn, yn gyfieithydd wrth ei alwedigaeth wedi graddio yn y Brifysgol ym Mangor ac a gymrodd ofal o'r Llan yn dilyn y cynnwrf pan ail argraffodd y cylchgrawn, dan olygyddiaeth Meurig Llwyd Williams yn 2006, gopi o gartŵn o Muhammad o'r papur Ffrengig Le Soir a sathrodd ar gyrn Mwslimiaid y byd, a phryd y gwelwyd Archesgob Cymru yn ei ddychryn yn galw'r cylchgrawn yn ôl i'w ddinistrio!

Tybed oes gennych chi gopi o'r rhifyn casgliadwy hwnnw?

Ymddeolodd Mr Williams, Archddiacon Bangor, toc wedyn, ac ymddiheurodd yr Eglwys i Fwslimiaid y byd am iddo darfu arnynt.

Mwslemiaeth 1 Cristnogaeth 0, felly ac ar ben hynny bu rhywfaint o amheuaeth ynglŷn â dyfodol y cyhoeddiad ond daeth Huw Tegid i'w fywiogi.

Hyd yn gwn i, ni ddigwyddodd dim byd mor gythryblus i'r Goleuad yn ei hir hanes ef ers ei gyhoeddi gyntaf yn 1869 dan olygyddiaeth John Davies, Gwyneddon.

Fe'i dilynwyd ef gan yr enwocach Ieuan Gwyllt ac ymhlith ei olygyddion blaenllaw eraill bu un o dywysogion newyddiaduraeth Gymraeg, E Morgan Humphreys, ac yn fwy diweddar Harri Parri ac Elfed ap Nefydd Roberts.

Mae hysbysebion yn rhifynnau diwethaf y ddau gyhoediad yn holi am olygyddion a diau bod rhywrai yn gweddïo y daw rhywun cymwys i'r adwy.

Dan eu bendith.

  • Cylchgrawn Cymreig arall sy'n chwilio am olygydd yw 'r un chwarterol Saesneg - cylchgrawn y clywais rhywun yn dweud amdano rhwng difrif a chwarae fod ganddo fwy o gyfranwyr nag o gylchrediad.

    Bydd angen y cyffyrddiad personol felly gan unrhyw olygydd.


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.