Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Geiriau Gwener

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 10:51, Dydd Gwener, 9 Ebrill 2010

Ar fore Gwener - ail flasu'r wythnos trwy gofio rhai o'r pethau a ddywedwyd gan wahanol bobl yn y wasg ac ar y cyfryngau. A gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi gyda ni. Anfonwch nawr.

  • Gwnewch yn siŵr nad oes dim yn eich rhwystro rhag pleidleisio - Hysbyseb gan Y Comisiwn Etholiadol.
  • Mae rhywun deallus yn gwybod mai ffrwyth yw'r tomato. Ond mae angen synnwyr cyffredin i beidio ei roi mewn salad ffrwythau - Magi Dodd yn 'Golwg'.
  • Yn yr oes ryfedd sydd ohoni ym myd y teledu a'r radio - yr holl gwyno am . . . yr ailddangos rhaglenni parhaus, yr iaith wallus a'r mynegiant herciog a glywir mor aml . . . mor braf cael cynnig sylw cadarnhaol a chanmoliaethus. Roedd y rhaglen ar Emyr Huws Jones (Ems) nos Lun y Pasg ar S4C yn chwa o awyr iach - D M Hughes, Athrawes Gerdd, mewn llythyr yn 'Y Cymro'.
  • A wêl y gamp geilw i go
    swyn y Gymdeithas honno - cwpled gan Dic Jones a gerfiwyd ar gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2010.
  • I Gristnogion mae pleidleisio ar adeg o etholiad nid yn unig yn fraint ond yn ddyletswydd - neges esgobion Cymru o glywed bod cymaint a 200,000 yng Nghymru heb gofrestru i bleidleisio.
  • Mae hi'n awr i fyny i feddygon fynd i'r afael â'u ffordd o wisgo ac a'u hedrychiad - Her y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, i'r Gymdeithas Feddygol wrth i ddillad newydd ar gyfer nyrsys Cymru gael eu dangos am y tro cyntaf ddydd Iau.
  • Yr hyn hoffwn i yw i olygyddion fod ag ychydig mwy o farn foesol ynglÅ·n â beth maen nhw'n ei werthu a sylweddoli fod pobl ifainc yn ymdrechu i efelychu y bobl yn eu cylchgronau - RosalindPonomarenko-Jones y bu farw eu merch Sophie o anorecsia.
  • Cyn bo hir bydd y rhan fwyaf o fynwentydd yn llawn - Alex Glanville, pennaeth gwasanaethau eiddo yr Eglwys yng Nghymru.
  • Dim ond ni all benderfynu troi'r cloc ymlaen neu aros yn y tywyllwch - Sylw amserol John Gruffydd Jones, golygydd 'Y Goleuad' i Gristnogion adeg troi'r clociau ymlaen.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.