Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwragedd da

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:09, Dydd Sul, 21 Mawrth 2010

Ar adeg pan fo gwragedd gwleidyddion yn cael bron iawn gymaint o sylw â'r gwleidyddion eu hunain cawsom ein hatgoffa ar Dweud eich Dweud y bore o'r blaen o wraig arall sy'n allweddol i yrfa ei gŵr.

Elfyn Pritchard fu'n sôn am sefyllfa anodd 'Gwraig Gweinidog'.

"Pan oedd digon o weinidogion i'w cael yr un tebyca i gael ei ddewis oedd yr un efo gwraig ddefnyddiol," medda fo gan fynd ymlaen i'n hatgoffa o'r disgwyliadau wrth roi'r wraig yn y dafol wrth ddewis gweinidog newydd.

Mae'n siwr gen i mai un o wragedd gweinidog enwocaf llenyddiaeth Gymraeg oedd yr un yn Porc Peis Bach a chwaraewyd mor rhagorol gan Nia Caron gyferbyn a Wynford Ellis Owen fel y gweinidog.

Nia Caron ym Mhobol y Cwm ar hyn o bryd ond yn wraig gweinidog yn Porc Peis Bach!

Hi ac yntau wedi eu sylfaenu ar rieni go iawn Wynford yr actor ac awdur y gyfres honno.

Fel gwragedd Gordon, Dave a Nick yr oedd disgwyl i wragedd gweinidogion gyflawni'r wyrth o fyw yng nghysgod eu gwÅ·r a bod yn ddefnyddiol ac yn gymeradwy yn y gymdeithas hefyd.

O fod yn rhy amlwg byddai gwraig gweinidog yn cael ei chyhuddo o fod yn rhy pwshi neu fforward - ond o fod yn anweledig y cyhuddiad wedyn fyddai un o fod yn ddiwerth.

Anodd ennill mewn sefyllfa o'r fath ond nac anghofiwn yr hen ddywediad yn achos gwragedd gweinidogion a gwleidyddion fel ei gilydd a dynion llwyddiannus yn gyffredinol:

Y tu ôl i bob dyn amlwg mae gwraig dda - yn crensian ei dannedd mewn cywilydd.

Pa wragedd eraill tybed sydd mewn lleoedd anodd oherwydd gwaith eu gwÅ·r - ac a yw hi'n haws ynteu'n anos i'r gwÅ·r hynny sy'n byw yng nghysgod gwragedd llwyddiannus?

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.