Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dyfyniadau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 05:40, Dydd Gwener, 5 Chwefror 2010

Unwaith eto ar ddydd Gwener - blasu ambell i beth gafodd ei ddweud gan wahanol bobl.

A gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr neu'r dwys â ni.


  • Pan ydw i'n gyrru i orsaf y Bontnewydd i fynd i'r gwaith yn y bore rwy'n gweld pobl fy oed i yn mynd a'u hwyrion i'r ysgol. Wedi 45 mlynedd mewn gwleidyddiaeth ac yn aelod am 35 chefais i mo'r cyfle i fynd a mhlant fy hun i'r ysgol ac rwyf wedi penderfynu rhoi'r gorau iddi. Rwyf eisiau treulio mwy o amser gyda'm teulu - Don Touhig AS Islwyn yn egluro pam na fydd yn sefyll yn yr etholiad nesaf.
  • Mae na ryw rin yn perthyn i'r gair 'arbenigwr', ond does neb gwell am anghydweld nag arbenigwyr - Glyn Morgan yn Y Llan.
  • Rwy'n teimlo fel llechen lân. Dydw i'n gwybod dim mewn gwirionedd am lyfrau na gwleidyddiaeth na cherddoriaeth na'r sinema. Wn i ddim o ble daeth y gerddoriaeth yma. Y cyfan wn i yw fy mod eisiau bod yn artist pop - Maria Diamandis o Frynmawr, Blaenau Gwent, sy'n cyhoeddi ei halbwm cyntaf Chwefror 22.
  • Pan yn ystyried trafnidiaeth i'r digwyddiad cymrwch eich cynghori bod sawl aelod o'r grŵp wedi mynegi diddordeb mewn ymweld a rhai o dai tafarn Bae Caerdydd er mwyn parhau â thrafodaethau anffurfiol a blasu cynnyrch wedi'r cyfarfod ffurfiol - Katie O'Brien, ymchwilydd Jeff Cuthbert AC yn trefnu digwyddiad gan Grwp Aml Bleidiol y Cynulliad ar Gwrw a Thai Tafarn.
  • Ti'n un o'r rhai gwaethaf welais i erioed yng Nghymru - ac mae hynny'n dweud rhywbeth - Simon Cowell wedi pum eiliad o berfformiad gan Christopher Rocky wedi ei wisgo fel morwyn Ffrengig mewn gwrandawiad Britain's Got Talent yng Nghaerdydd.
  • Yn hytrach nag achosi blinder a seicosis mae'r Ffydd Gristnogol yn rhoi i ni heddwch a thangnerfedd, iechyd a iachawdwriaeth - Dr David Enoch, Seiciatrydd Ymgynghorol ym Mhrifysgol Caerdydd.
  • Fe fyddai hi'n anodd i blant adael eu ffonau symudol ar ôl a hwythau'n gymaint rhan o'u bywydau. Maen nhw ym mhob poced - Arbenigwr Addysg, Yr Athro David Reynolds, yn trafod yn y wasg wahardd ffonau symudol o ystafelloedd arholiad er mwyn lleihau'r achosion o dwyllo.
  • Dwi'n meddwl bod Cymru'n mynd i'w chael yn anodd yn y Chwe Gwlad eleni. I mi mae iddyn nhw edrychiad tîm canol y tabl - Barry John yn y Wales on Sunday.
  • Noson allan dda i mi yn awr ydi Tesco Merthyr gyda'r musus - Adam Jones, prop Cymru yn sôn am y newid yn ei fywyd ers canolbwyntio o ddifrif ar rygbi.
  • Gadewch inni wynebu'r peth, chwaraeon i bobl nad ydyn nhw'n hoffi chwaraeon ydi'r Chwe Gwlad - Steve Tucker yn y Wales on Sunday yn dadlau nad rygbi ydi gêm genedlaethol Cymru.
  • Peter - ble mae'n harian ni wedyn mynd? - poster gan gefnogwyr Caerdydd sy'n anhapus â'r ffordd mae'r cadeirydd, Peter Ridsdale, yn rhedeg y clwb.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.