Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pint a seibiant

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 13:14, Dydd Mercher, 13 Ionawr 2010

Difyr gweld mai drama gan awdur sydd yr un mor enwog am y bylchau yn ei ddialog ag yw am y geiriau sydd ynddi yw cynhyrchiad nesaf Theatr Genedlaethol Cymru.

Byddai rhai yn dadlau i Harold Pinter wneud y saib ddramatig yn gelfyddyd ynddi ei hun ac fe all cynulleidfaoedd Y Gofalwr ddisgwyl digon ohonyn nhw.

Harold Pinter

Ond os am weld y saib yn ei holl ogoniant maen nhw'n dweud i mi mai yn The Homecoming mae'r awdur ar ei orau.

Yn honno maen na 240 o seibiau arwyddocaol - pwy bynnag fu'n cyfrif!

Ar ei wely angau hyd yn oed nid Pinter oedd yn brin o arddel y grefft a berffeithiodd dros y blynyddoedd.

Yn sgil cyhoeddi dyddiaduron gweddw Pinter - yr Arglwyddes Antonia Fraser, yr hanesydd a merch yr Arglwydd Longford sy'n cael ei hadnabod fel Lady Magnesia Freelove gan ddarllenwyr Private Eye - yr oedd stori yn y papur y dydd o'r blaen am sgwrs olaf y ddau gyda'i gilydd.

Nadolig 2008 oedd hi yn ôl y dyddiaduron ac yntau wedi ei ruthro i'r ysbyty a'r ddau yn gwybod bod y diwedd yn agos ac yntau'n gofyn iddi hi:

"Beth ydi dy gynlluniau . . . [saib] . . . yn gyffredinol."

Yn driw i'r diwedd i'r arddull a fathwyd gan rywun yn Pinteresg.

Cychwyn ansicr

Ond o gofio iddo gyrraedd rheng uchaf ei broffesiwn yn ddramodydd dechrau digon ansicr a gafodd Pinter gyda'i ddrama gyntaf i'w pherfformio, The Birthday Party, yn 'cau' wedi wythnos yn unig yn 1958.

Ond er ymateb claear trwch y beirniaid fe welodd un, Harold Hobson, ddyfodol i'r dramodydd ifanc.

"Yr ydw i'n fodlon mentro hynny o enw da sydd gen i fel beirniaid i ddweud, ar sail y gwaith hwn, fod Mr Pinter yn meddu ar y dalent fwyaf gwreiddiol, anghyfforddus a gafaelgar ym myd theatr Llundain," meddai.

Saib yn awr, tra'n disgwyl i weld beth fydd ymateb cynulleidfaoedd Cymru 2010 i Y Gofalwr ac i weld beth fydd Cefin Roberts, y cyfarwyddwr, yn ei wneud o'r holl seibiau yna.
.......
.......
.......
.......
Ym - Hwyl.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.