Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cofio 'Angel' o Lydaw

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:37, Dydd Mercher, 6 Ionawr 2010

Wrth inni gyfrif ein colledion yma yng Nghymru ar ddechrau blwyddyn fel hyn death newyddion hefyd am farwolaeth cyfaill i Gymru yhn Llydaw.

Bu farw Bernard Le Nail yn 63 oed fore Rhagfyr 5 2009.

Disgrifiodd fy hen gyfaill Gwyn Griffiths, Llydawegwr o fri ac awdur llyfrau am y wlad a'i phobl, ef fel "cyfaill ac edmygwr mawr o Gymru ac un o ffyddloniaid y Gyngres Geltaidd". Meddai Gwyn wrth dalu teyrnged iddo:

Teyrnged Gwyn Griffiths

"Ymwelai o dro i dro â'r Eisteddfod Genedlaethol. Edmygai ffyddlondeb y Cymry i'r iaith a llwyddiant sefydliadau fel yr Urdd, Plaid Cymru, y Cyngor Llyfrau a'r Llyfrgell Genedlaethol.

"Yr oedd ei wybodaeth o Gymru yn ddigon i godi cywilydd ar lawer Cymro a meddai lawn cystal adnabyddiaeth o'r gwledydd Celtaidd eraill. Am Lydaw, nid oedd ei wybodaeth yn ail i neb. Yr oedd yn wyddoniadur ar ddwy droed.

Bernard

"Fe'i ganwyd ym Mharis yn fab i aelod o staff llysgenhadaeth Ffrainc ym Mecsico a phan ddeuthum i i'w adnabod gyntaf dros 30 mlynedd yn ôl yr oedd yn gweithio i Siambr Fasnach Naoned (Nantes). Gwen, fy ngwraig, a'i cyfarfu gyntaf. Yr oedd hi'n aelod o Gôr Godre'r Garth pan aethant i ŵyl yn Naoned ganol y Saithdegau.

"Yr oedd hi'n chwilio mewn stondin lyfrau am un o ddramâu Tangi Malmanche ar fy nghyfer - Ar Baganiz, rwy'n meddwl. Bernard oedd yng ngofal y stondin a daeth Gwen adref gyda choelaid o ddramau Malmanche a heb dalu dimau amdanynt. Bûm yn ei ddyled byth wedyn. Yr oedd haelioni Bernard tuag at unrhyw gyfaill i Lydaw yn ddihareb.

Darllen llyfr

"Nid yw Naoned yn rhan o'r Lydaw Lydewig ei hiaith. 'Dechreuodd fy niddordeb pan ddarllenais lyfr gan Yann Fouéré a dod ar draws cyfeiriad at yr holl Lydawyr a laddwyd - chwarter miliwn - yn ymladd dros Ffrainc yn y Rhyfel Mawr,' meddai wrthyf un tro.

"Deuthum i ymddiddori mewn cerddoriaeth Lydewig, a dysgu canu'r fagbîb. Wedyn dechreuais ddysgu'r iaith drwy ddosbarthiadau Skol Ober Marc'harid Gourlaouen - dysgu Llydaweg drwy lythyr."

"Aeth wedi hynny i Roazhon (Rennes) yn Gyfarwyddwr Skol Uhel ar Vro (Institut Culturel de Bretagne), corff sy'n cyfateb i Gyngor Celfyddydau Cymru. Daeth a phrofiad masnachol gwerthfawr i'r corff hwnnw a gwyddai sut i ddenu nawdd y sector breifat i'r prosiectau niferus y byddai'n ei creu a'i hybu.

"Nid yw diwylliant Llydaw mor freintiedig a Chymru, yn arbennig yng nghyswllt yr iaith. Eto, ewch i wyliau llyfrau yn Llydaw ac nid yw'r gwahaniaeth mor amlwg â hynny i Gymro neu Gymraes. Llwyddwyd i wneud gwyrthiau ar gyfalaf bach dros y blynyddoedd ac y mae'r diolch am lawer o hynny i Bernard a'i feddwl chwim a'i ddawn i ddod o hyd i gyllid ar gyfer y gwaith.

"Fwy nag unwaith, gwelodd bosibiliadau ryw syniad a grybwyllais wrtho a chynnig help ymarferol. 'Ga i fod yn gyd-gynhyrchydd?' meddai wrthyf un tro. 'Dydw i ddim am wneud dim yn arbennig, ond mi ddof i â swm fach o arian i'r bwrdd.'

"Felly y daeth amgueddfa'r Sioni Winwns i fod. A phan neidiodd Cyngor Roscoff at yr abwyd, ciliodd Bernard a gadael iddyn nhw fod yn geffylau blaen - a dod a'u harian gyda nhw. Yr oedd wedi ysgogi'r gwaith. A'r tro hwnnw heb orfod cyfrannu 'chwaith. Nid oedd brinder achosion teilwng eraill ar gyfer ei arian.

"Pan benderfynwyd symud pencadlys Skol Uhel ar Vro (yn llythrennol Prifysgol y Wlad) o Roazhon i Gwened (Vannes) dewisodd ymddiswyddo. Yr oedd y plant - Marie, Donatien ac Aziliz - yn dal yn yr ysgol Diwan. Sefydlodd gwmni cyhoeddi, Editions Les Portes du Large, gan arbenigo mewn llyfrau yn yr iaith Ffrangeg am gysylltiadau tramor Llydaw.

Cyfraniad mawr

"Fel cenedl mae gan y Llydawiaid draddodiad morwrol cyfoethog ac anturus, ond i'r traddodiad hwnnw gael ei foddi'n rhy fynych dan donnau hanes Ffrainc. Faint o bobl ŵyr mai Malouinas yw ffurf wreiddiol Malvinas - am mai morwyr o Sant Malo a'u darganfu.

"Gŵr o Sant Malo oedd Jacques Cartier, y cyntaf i hwylio fyny'r St Lawrence. Dyma un o gyfraniadau mawr Bernard - ysgrifennodd ef ei hun am yr anturiaethau hyn a chyhoeddodd gyfrolau pobl eraill ar y pwnc.

"Ble cafodd yr egni a'r amser, wn i ddim. Er yn gyhoeddwr ei hun, fe'i comisiynwyd i sgrifennu'r gyfrol ysblennydd Bretagne - pays de mer gan Hachette. Ar y cyd gyda'i wraig Jacquelyn, sydd mewn swydd gyfrifol yn llyfrgell Roazhon, lluniodd gydymaith i awduron llyfrau plant a phobl ifanc Llydaw, Dictionnaire des Auteurs de Jeunesse de Bretagne, a chydymaith i nofelwyr Llydaw, Dictionnaire des Romanciers de Bretagne.

"Am ei lu cyhoeddiadau, o'm blaen y funud hon mae cyfrol Philippe Godard a Tugdual de Kerros - Louis de Saint Aloüarn: Un Marin Breton à la Conquête des Terres Australes - a gyhoeddwyd yn 2002. Cyfrol ogoneddus o hardd, yn lluniau a mapiau. A welir byth rywbeth tebyg gan gyhoeddwr Cymreig?

"Y mae gan Lydaw gyfoeth o enwau teulu - miloedd yn wir. Enwau'n seiliedig ar fro neu ardal geni, gwaith y penteulu, neu air disgrifiadol o'i gorff neu ei gymeriad. Er yr arferai lofnodi erthyglau yn y Llydaweg fel Bernez an Nail, dywedodd wrthyf unwaith ei fod amau mai an Ael, oedd ffurf wreiddiol ei enw, sef yr Angel.

"Mewn haelioni a pharodrwydd gyda chymwynas, yr oedd yn wir yn angylaidd. Ond nid un i ddioddef ffyliaid mohono. Cofiaf fynd gydag ef i ymweld â chapel bach yng nghoedwig Paimpont un tro.

"Yr oedd bysiaid o bobl yno o'n blaenau a rhyw ddynes yn egluro arwyddocâd murlun wrthynt. Roedd yn amlwg fod y ddynes yn siarad tipyn o lol a fedrai Bernard ddim diodde mwy. Torrodd ar ei thraws yn flin a rhoi ei ddarlith ei hun i'r ymwelwyr.

"Ystrydeb fyddai dweud na fydd Llydaw yr un fath heb Bernard. Eto, bu mor hael yn fy helpu i adnabod Llydaw a'i phobl. Hyd yn oed hebddo sicrhaodd na fydd Llydaw fyth yn ddieithr i mi. Ond bydd Llydaw yn llawer tlotach o'i golli.

"Ni allaf ddychmygu sioc y teulu. Pan ddychwelais adref wedi'r Nadolig agorais y cyfrifiadur a gweld dwy e-bost wrtho. Y neges gyntaf oedd cerdyn Nadolig wedi ei anfon Noswyl Nadolig. Agorais yr ail a chael mai wrth Jacqueline yr oedd, wedi ei anfon trannoeth yr Ŵyl, yn dweud i Bernard ddioddef strôc ddifrifol nos Nadolig. Bendith arni a'r tri plentyn."

Diolch yn fawr iawn, Gwyn Griffiths, am y cyfraniad yna.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.