Bananas Robin
I'r rhai hynny ohonom a oedd o gwmpas adeg cychwyn S4C yr oedd Robin Jones, a fu farw dros y penwythnos diwethaf, bron a bod yn un o'r teulu.
Ef, Sian Thomas a merch arall fyddai'n dweud wrthym beth ddeuai nesaf ar y sianel achos yr adeg honno yr oedd y cyflwynwyr i'w gweld ar y sgrin.
Siom fawr iddo oedd i S4C ddiddymu'r arfer hwnnw gydag ond y lleisiau i'w clywed y tu ôl i beth bynnag arall fyddai ar y sgrin.
Rwy'n ei gofio yn dweud wrthyf yr ystyriai'r berthynas rhwng y cyflwynwyr a'r gynulleidfa nid yn unig yn un o hanfodion y sianel Gymraeg ond hefyd yn rhan o'i hapêl a'i hagosatrwydd.
I'r cyflwynydd bonheddig ni fu'r sianel yr un fath wedyn - ond dyna ni; dyna deledu.
Yr oedd gyrfa Robin Jones yn ymestyn ymhell y tu draw i S4C. Yr oedd o yno hefyd dros gyfnod byr yr Hen Deledu Cymru yn y Chwedegau gyda rhai o fawrion darlledu Cymraeg fel John Roberts Williams a T Glynne Davies.
Bosib mai ond Gwyn Llewelyn sydd ar ôl, bellach o'r criw dethol hwnnw a dorrodd gŵys mor nodedig - ond methu cyrraedd talar yn anffodus.
Bu Robin Jones yn llais radio hefyd yn darllen y newyddion Cymraeg ar y Â鶹Éç.
Ef oedd yn darllen yn ystod y Post Pnawn y diwrnod hwnnw yn y Saithdegau pan drôdd un lorïau bananas Fyffes drosodd ar yr A55 yn y gogledd.
Wrth ddirwyn y bwletin hwnnw i ben gyda rhagolygon y tywydd cyhoeddodd Robin:
"Cawodydd o law ar y tir uchel ond bydd yn brafiach yfory ym mhob man gyda ysbeidiau heulog yn y de a bananas ar arfodir y gogledd!"
Llithrig iawn