Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pwy sy'n dwad dros y bryn?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 06:06, Dydd Mercher, 23 Rhagfyr 2009

Mae o'n teithio mewn car llusg heb ochrau iddo fo a heb wisgo gwregys diogelwch.

Mae o'n parcio ar ben toau.

Santa
Yn stwffio i fyny ac i lawr cyrn simdde efo sach ar ei gefn.

Yn treulio amser ar ei ben ei hun efo plant nad ydio'n eu hadnabod yn eu llofftydd.

Yn yfed gwydraid o sieri cyn symud ymlaen i'r lle nesaf.

Ac yn teithio drwy'r awyr yn y tywyllwch heb olau filoedd o filltiroedd yr awr yn meddwl ei fod o'n cael ei dynnu gan geirw efo trwynau coch.

Pe byddai Santa'n cael ei ddyfeisio heddiw fe fyddai'n cael ei wahardd am dorri pob rheol iechyd a diogelwch allwch chi feddwl amdani.

Ac a fyddai'r RSPCA yn ei ystyried yn berson cymwys i edrych ar ôl ceirw?

A fyddai gan yr heddlu ddiddordeb gwybod lle mae o'n cael yr holl anrhegion 'na.
Feri syspect.

Ni allwn ond diolch na ofynnodd neb am asesiad risg yr holl ugeiniau yna o flynyddoedd yn ôl.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.