Dydd o brysur bwyso
Bore Gwener, neu hyd yn oed nos Iau efallai, fe fyddwn ni'n gwybod hynt ariannol tri chyhoeddiad Cymraeg.
Yn dilyn cyfarfod ddydd Iau nesaf bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn cyhoeddi pa un ai Barn ynteu Sylw fydd o'n ei gefnogi gyda grant o hyn allan.
Bydd yn dod i benderfyniad hefyd a fydd o'n parhau i gefnogi Y Cymro neu beidio.
Bu Barn a'r Cymro ar flwyddyn o rybudd fel petai ac fe fydd un o banelau'r Cyngor Llyfrau yn dechrau trafod yfory a ddylid parhau i gefnogi'r Cymro o gwbl sy'n cael £18,000 ar hyn o bryd.
Ynglŷn â Barn sy'n derbyn £80,000 mae hi'n gystadleuaeth rhwng y cylchgrawn a sefydlwyd yn 1962 a chylchgrawn newydd, Sylw, y cyhoeddwyd yr unig rifyn ohono gan Y Lolfa ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Y Bala trwy gymorth taliad o £5,000 gan y Cyngor Llyfrau.
Gobaith Sylw yw iddo ddangos digon o addewid i fedru hawlio'r £80,000 oddi ar ford Barn.
Gobaith Barn, sy'n awr a phanel o olygyddion newydd, yw y bydd wedi gwneud digon dros y misoedd diwethaf i argyhoeddi'r Cyngor Llyfrau ei fod yn dal i haeddu'r arian.
Dyma'r tro cyntaf inni weld cystadleuaeth o'r fath yn hanes grantiau i gylchgronau.
O blith tri a fu'n dyfalu am y penderfyniad posibl ar Wythnos Gwilym Owen Â鶹Éç Radio Cymru ddoe dywedodd Eifion Lloyd Jones a Gwyn Griffiths mai i Barn y bydden nhw'n rhoi'r arian ond ochri gyda Sylw wnaeth Angharad Mair.
A hynny am y rheswm syml i'r cylchgrawn roi ei llun hi ar glawr ei rifyn enghreifftiol a chyhoeddi erthygl amdani.
Ond fel y dywedodd Gwyn Griffiths; doedd y llun yn ei farn ef ddim yn un a wnâi gyfiawnhad ag Angharad ac ar ben hynny doedd yr erthygl amdani ddim wedi ei sgrifennu'n dda iawn ychwaith gan awgrymu bod pob cyfiawnhad iddi o'r herwydd droi cefn ar y cyhoeddiad.
Tybed beth fydd barn aelodau'r Cyngor Llyfrau a sylwodd ar y llun?