Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Democratiaeth dderwyddol

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:48, Dydd Mercher, 18 Tachwedd 2009

Mae hi'n dal yn ddryswch pam na chafodd aelodau Gorsedd y Beirdd ddewis eu harchdderwydd newydd trwy bleidlais.

Y cyfan mae rhywun yn ei wybod, yn dilyn ymddangosiad Cofiadur yr Orsedd, John Gwilym Jones, ar Wythnos Gwilym Owen ddydd Llun, yw sut yr amddifadwyd aelodau'r Orsedd o'u hawl i ddewis.

Ond ni allodd egluro pam y penderfynodd Bwrdd yr Orsedd ymyrryd â'r broses ddemocrataidd trwy gysylltu â'r ddau a enwebwyd yn hytrach na bwrw mlaen yn ddiffwdan i anfon papurau pleidleisio allan fel y gallai gweddill yr Orsedd ddewis rhwng y ddau a enwebwyd gan saith o bobl.

Rhaid derbyn na fu "trafodaeth" â'r ddau enwebwyd ond yr oedd cysylltu â hwy o gwbl yn anorfod yn mynd i roi un neu'r llall dan bwysau diangen i ystyried ei sefyllfa.

"Penderfyniad y Bwrdd [yr Orsedd] oedd, o ran cwrteisi, eu bod yn rhoi gwybod i'r rhai oedd wedi eu henwebu ac wedyn yn gadael iddyn nhw benderfynu yng ngoleuni'r enwau eraill oedd wedi dod i mewn a fydden nhw yn dymuno mynd ymlaen â'r bleidlais," meddai John Gwilym Jones a gyfaddefodd ei hun wrth Gwilym Owen "os y mynnwch chi, fe allen ni ddileu y rhan yna o'r broses ond dyna oedd y Bwrdd wedi'i osod i lawr a dyna fel y gweithredwyd."

Yn arwyddocaol awgrymodd hefyd pe byddai mwy na dau ymgeisydd y byddai'r bleidlais wedi mynd rhagddi.

Dau, tri, pedwar, pump - beth yw'r gwahaniaeth mewn egwyddor?

"Ond fe gafwyd dau a chafodd pobl ddim cyfle i bleidleisio rhyngddyn nhw," sylwodd Gwilym Owen sydd yn aelod o'r Orsedd ei hun a phleidlais ganddo.

Fel y cofnodais i mewn cofnod blaenorol :

"Yda chi'n hapus efo'ch Archdderwydd newydd?" meddwn i wrth aelod o'r Orsedd bore ddoe.
"Chawsom ni ddim dewis, naddo," meddai'n sych.

A beth am y saith a gefnogodd yr ymgeisydd a dynnodd yn ôl? A ofynnodd Bwrdd yr Orsedd iddyn nhw oedden nhw'n fodlon i'w hymgeisydd wneud hynny? Oedden nhw hyd yn oed yn gwybod y byddai'r Bwrdd yn cysylltu gyda'r sawl enwebwyd o gwbwl?

Wedi'r cyfan cydnabu John Gwilym Jones nad oedd y dull o weithredu yn wybodaeth gyffredinol o fewn yr Orsedd "oherwydd penderfyniad y Bwrdd oedd e."

Tybed sawl derwydd gaiff ei demtio i dynnu ei gleddyf o'r wain?

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.