Cofio J Mervyn Williams
Ychydig yn ôl bu farw'r gŵr a roddodd gychwyn i ddigwyddiad a dyfodd yn un o gystadlaethau cerddorol mawr y byd canu clasurol - Canwr y Byd Caerdydd.
Dywedodd J Mervyn Williams a oedd yn bennaeth cerdd y Â鶹Éç yng Nghymru ddechrau'r Wythdegau i'r syniad ddod iddo yn y bath.
Y syniad p ddenu cantorion mwyaf addawol y byd i gymryd rhan mewn cystadleuaeth yng Ngwlad y Gân.
Y gobaith oedd y byddai cantorion ar gychwyn eu gyrfa yn cael sylw rhyngwladol wrth iddynt gael eu gweld yn cystadlu ar deledu eu gwahanol wledydd.
Yr oedd Mervyn y dyn iawn ar yr adeg iawn gan fod Neuadd Dewi Sant yn cael ei chodi yng Nghaerdydd ar y pryd a phennaeth rhaglenni Â鶹Éç Cymru, Geraint Stanley Jones, yn awyddus i fanteisio ar gael cystal neuadd ar garreg ei ddrws.
"Fe'm gwahoddwyd i gyflwyno fy syniadau i benaethiaid cerdd dros ugain o gwmnïau darlledu yn y Prix Italia yn Fenis yn 1982 yn y gobaith y bydden nhw yn anfon cantorion i Gaerdydd. Dim ond y Ffindir a Gwlad Belg gynigiodd eu cefnogaeth ac fe drodd Â鶹Éç 2 y syniad i lawr," meddai Mervyn wrth gofio'i siom rai blynyddoedd wedyn.
Ac yntau'n benisel oherwydd y gefnogaeth glaear honno codwyd ei galon pan ddaeth Humphrey Burton a fu'n Bennaeth Cerdd a Chelfyddyd y Â鶹Éç ato gan ddweud ei fod yn syniad da.
"Dal ati, ac fe edrychai be allai'i wneud," meddai Burton wrtho.
Ac yn wir, gyda cefnogaeth Gareth Price, y pennaeth rhaglenni cynorthwyol yng Nghymru a John Watkin, y pennaeth cyflwyno, cafwyd y maen i'r wal diolch i Burton a lwyddodd i ddwyn perswâd ar Â鶹Éç 2.
"Y wlad gyntaf i anfon enw cystadleuydd oedd Gwlad yr Iâ a daeth 17 o gantorion eraill o leoedd mor amrywiol â Hong Kong, Seland Newydd a Chanada," meddai Mervyn.
Dewiswyd panel o feirniaid rhyngwladol yn ogystal â cherddorfeydd, arweinyddion a chyfeilyddion a threfnwyd gwestai i'r cystadleuwyr.
Ac wrth dynnu allan y rhaglen cadwyd llygad barcud hefyd ar amserau trenau yn cyrraedd a gadael Caerdydd!
Wrth gofio'r ymdrech flaengar honno talodd Mervyn Williams glod i'w gynorthwyydd Anna Williams.
"Sicrhaodd hi a'i thîm fod croeso cynnes i'r cantorion a'u bod yn ymgyfeillachu a'i gilydd. Gydol y blynyddoedd mae'r ysbryd yna wedi parhau," meddai Mervyn a ddaeth yn ffefryn ei hun oherwydd ei natur groesawgar a'i ddywediad bachog, "Do not compete - make music."
Ac yn haf crasboeth 1983 canwyd y nodau cyntaf Â鶹Éç Canwr y Byd Caerdydd. A'r enillydd?
"Yr oedd yn addas iawn mai o'r wlad gyntaf i gefnogi'r syniad y daeth yr enillydd - y Ffindir," meddai Mervyn gyda balchder o gofio am gamp cantores o'r enw Karita Mattila.
Ers hynny tyfodd y gystadleuaeth y tu draw i bob disgwyl a thra phery nis anghofir enw
J Mervyn Williams a fu farw Hydref 29, 2009.
Yn dod o Lanfairfechan yn wreiddiol bu Mervyn cyn ei gyfbod yn Bennaeth Cerdd a'r Celfyddydau yn gynhyrchydd teledu yn Adran Addysg y Â鶹Éç.
Wedi ei gyfnod gyda'r Gorfforaeth sefydlodd gwmni teledu annibynnol Opus a chwmni adnoddau Derwen a unwyd yn nes ymlaen gyda Barcud i greu Barcud Derwen.