Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Twts o golociwm

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 14:01, Dydd Iau, 8 Hydref 2009

Rhyfedd ac od y duedd sydd yna mewn pobl i ddefnyddio geiriau anodd er bod rhai syml, hawdd eu deall ar gael.

Gwleidydd ar y radio y bore ma yn defnyddio'r erthylair sgrwtineiddio nifer o weithiau er y byddai edrych neu ymadrodd fel bwrw golwg dros wedi gwneud y tro yn iawn.

Sgrwtineiddio, gyda llaw, yn air nad yw hyd yn oed wiriwr sillafu y cyfrifiadur hwn yn ei adnabod - ond gallwch fentro y bydd y tro nesaf y bydd ei raglen yn cael ei diweddaru!

Ac ydych chi wedi sylwi does neb bellach yn dewis rhwng un peth a'r llall. Na, wynebu opsiynau mae siaradwyr Cymraeg heddiw.

"Mae ganddo ddau opsiwn." Faint fydd hi nes bydd y gem yn newid i "Opsiwn, opsiwn, dau ddwrn . . ." ac yn y blaen?

Hyn yn dod a fi ar fy mhen i gyfarfod sydd i'w gynnal ym Mhrifysgol Bangor Tachwedd 7, 2009.

Cyfarfod ddwedais i? Dim o'r fath beth.

Yn hytrach, "colociwm".

Nid hyd yn oed cynhadledd sydd radd yn grandiach na chyfarfod - ond "colociwm" sydd ymhell tu draw i raddfa richter arferol crandrwydd er ei fod y'n swnio fwy fel cyflwr meddygol go ddifrifol na chasgliad o bobol yn malu awyr.

"Ma'r cr'adur yn cael traffarth ddychrynllyd efo'i golociwm wchi. Dydio'n cael dim winc o gwsg run noson."
Neu
"Mae o'n rhosbitol efo'i golociwm ers pythefnos."

Ond na phoenwch fydd dim rhaid i neb fynd tu nôl i unrhyw sgrin na thynnu ei ddillad i ymuno â "Y pedwerydd colociwm ar lenyddiaeth Gymraeg fodern a chyfoes," gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor lle bydd y tusw dela welsoch chi rioed o ysgolheigion yn mynd i'r afael â dylanwad refferendwm 1979 ar lenyddiaeth Gymraeg a'r meddwl Cymreig.

Ac ymhlith y rhai fydd yn colocio - o gymharu â chloncio? - bydd y darlithwyr Dr Simon Brooks, Yr Athro Richard Wyn Jones, Yr Atho Peredur I Lynch a'r Dr Pwyll ap Siôn ac yn cymryd rhan mewn trafodaeth dan gadeiryddiaeth Vaughan Hughes, Cynog Dafis, Meg Elis, Iwan Llwyd, Menna Machreth a Gareth Miles.

A'r pris - dim ond £15 yn cynnwys cinio.
Dim ond gobeithio na chaiff neb golic.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:37 ar 8 Hydref 2009, Owen Wyn ysgrifennodd:

    A ydych yn mynd mor bell a deud fod y byd academaidd yn lladd y Gymraeg? Os ydych chi, ni alla i ond cytuno. Ond pa aelod cynulliad ddeudodd y dydd o'r blaen fod 'angen strategaeth fwy strategol'? Cliw: mae hi'n ddelach na llawer o'r aelodau benywaidd sydd yno!

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.