Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nia Lloyd Jones - rhagor o glecs cefn llwyfan

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Blogiwr Gwadd | 06:21, Dydd Gwener, 7 Awst 2009

Nia Lloyd Jones yn sgrifennu o gefn y llwyfan

Dydd Mawrth.
Dechrau'r diwrnod yng nghwmni'r tri oedd yn llefaru darn o'r Ysgrythur dan 19 oed - Lowri Elen, Heulen Cynfal a Guto Gwilym, a rhyfeddu at eu dawn i gofio llond tudalen o eiriau!

Braf iawn oedd gweld criw Llansannan tu ôl i'r llwyfan.

Efo criw Llansannan

Tro diwethaf imi fod yn eu cwmni oedd yn Eisteddfod yr Urdd ac yno mi ges i glamp o sws gan Huw - oedd yn digwydd bod yn dathlu ei ben-blwydd.

Roedd o nôl eto - ond ches i ddim sws y tro hwn - a gweddill y pentref bron iawn; yn cystadlu ar y cyflwyniad ar lafar ac ar gân a llongyfarchiadau mawr iddyn nhw ar eu perfformiad, yn ogystal ac Ysgol Uwchradd Bodedern - oedd yn ail.

Dyma ddiwrnod cyflwyno medal Syr T H Parry Williams ac mi ges i sgwrs sydyn hefo - yr enillydd teilwng.

Dwi'n cofio Haf yn fy meirniadu fi droeon mewn sawl eisteddfod ac roedd hi bob amser yn sgwennu beirniadaeth hynod o fanwl!!

Braf iawn oedd hel atgofion amdani wedyn hefo Iwan Llywelyn Jones - fu'n ddisgybl iddi yn Ysgol Syr Thomas Jones Amlwch, ac Edward Morris Jones sydd yn ffrind mawr iddi.

Daeth Guto Gwilym yn ôl ar y llwyfan eto - y tro hwn yng nghystadleuaeth y ddeialog a fedrwn ni ddim llai na rhyfeddu at y trowsus lycra du tynn yr oedd o yn ei wisgo!

Uchafbwynt y dydd i mi oedd cwrdd a'n ffrind eisteddfodol i - Shay Siwoku.

Mi wnaethon ni gyfarfod y llynedd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a gweld ein gilydd wedyn yn Eisteddfod yr Urdd.

Efo Shay

Mae Shay wedi dysgu Cymraeg ers rhai blynyddoedd bellach ac wedi gwirioni ar yr Eisteddfod, ac yn stiwardio bob blwyddyn. Roedd o'n gofidio nad ydi o'n cael digon o gyfle i ymarfer ei Gymraeg ond bod dod i'r Eisteddfod yn gyfle gwych i wneud hynny, a dwi'n mawr obeithio y gwelwn ni ein gilydd eto flwyddyn nesaf.

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.