Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Llwch yn y llygaid?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:01, Dydd Gwener, 28 Awst 2009

ER i dim Criced Awstralia orfod dychwelyd adref heb eu lludw gwerthfawr yr oedd ganddyn nhw serch hynny lestr lludw i fynd ardref efo nhw.

Cyflwynwyd Llestr y Lludw sef gwaith celf a grëwyd gan artist o Sir Benfro, Laura Thomas, i Gyfarwyddwr 'Cricket Australia', Dr John Bannon, gan y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones i nodi'r ffaith mai yng Nghymru y chwaraewyd gêm gyntaf y gyfres.

Laura Thomas a'i gwaith celf


Mae'r llestr yn adlewyrchiad o droelliad pêl griced ac nid yn unig yn coffau'r prawf cyntaf i'w gynnal erioed yng Nghymru ond hefyd yn symbol o gyfeillgarwch Cymru ac Awstralia meddai yn ei gylchlythyr diweddaraf.

Talwyd am y llestr gan Lywodraeth y Cynulliad, Cyngor Celfyddydau Cymru a SAFLE-celf cyhoeddus Cymru.

Wnai ddim taflu llwch i lygaid neb trwy awgrymu y bydd yn gwneud iawn am golli'r prawf a go brin y caiff gymaint o groeso a'r llestr lludw go iawn - ond o leiaf wnaethon nhw ddim gadael yn waglaw!

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.