Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mewn lle ciaidd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 17:14, Dydd Gwener, 19 Mehefin 2009

Mae dywediad cyfarwydd iawn yn y Saesneg am roi enw drwg i gi.

Ac enw ci un o'r arwyr sy'n achosi cur pen i wneuthurwyr fersiwn newydd un o ffilmiau mwyaf poblogaidd y Pumdegau, The Dam Busters.

Yn 1955 y ffilm hon am Barnmes Wallis (Michael redgrave) yn dyfeisio bom oedd yn bownsio oddi ar wyneb dwr er mwyn dinistrio dau argae yn nyffryn diwydiannol y Ruhr yr Almaen oedd ffilm fwyaf poblogaidd gwledydd Prydain gan guro'r enwog White Christmas
.
A'r un mor boblogaidd oedd ei cherddoriaeth gan Eric Coates, y Dam Busters March gyda galw byth a hefyd am ei chwarae ar raglenni cais y radio.

Un o 'gymeriadau amlwg y ffilm oedd labrador du y peilot RAF, Guy Gibson (Richard Todd) y cyfeirwyd ato 12 gwaith wrth ei enw yn y ffilm yn ôl y rhai fu'n cyfrif.

A'r enw hwnnw sy'n destun cur pen i wneuthurwr fersiwn newydd £21miliwn o'r ffilm, Peter Jackson (The Lord of the Rings).

Ganol y Pumdegau nid achosodd yr enw 'Nigger' ddim tramgwydd i neb ond ym mlynyddoedd mwy gwleidyddol gywir yr unfed ganrif ar hugain mae rhai wedi ffromi yn barod.

Ond eraill yn dadlau, os mai dyna oedd enw'r ci pam newid ffaith i dawelu plismyn cywirdeb gwleidyddol.

Yn ôl yr adroddiadau mae'r ffilmwyr yn barod wedi bod yn ystyried galw'r ci yn Digger, Nidge neu a Nigsy gan ddweud i Gibson ei hun ei alw'n Nigsy ar adegau.

Gofynnwyd, hyd yn oed, i Stephen Fry sy'n sgwennu'r sgript gynnig enwau derbyniol ond y sôn yw i'r rheini i gyd gael eu gwrthod.

Erbyn hyn mae gwneuthurwyr y ffilm wedi derbyn waeth be wna nhw bydd rhywun yn anhapus.

Os newidir yr enw cant eu cystwyo am wyro oddi wrth y gwirionedd ac os na'i newidir cant chwip din am arddel gair sy'n annerbyniol erbyn heddiw.
Beth mae rhywun i'w wneud mewn sefyllfa felly?
Ac os ydyn nhw yn newid yr enw fyddai hi wahaniaeth i beth fyddai'n cael ei newid gan y byddai unrhyw newid yn un anghywir beth bynnag?

Edrychwn ymlaen at weld beth fydd wedi digwydd pan fydd y ffuilm i'w gweld yyn 2011.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.