Y wlad leiaf
O wlad fychan mae gan Gymru record bur dda yng Ngystadleuaeth Â鶹Éç Canwr y Byd Caerdydd - ond eleni bydd gan wlad sydd dipyn yn llai na Chymru gynrychiolydd yn y gystadleuaeth.
Am y tro cyntaf bydd cystadleuydd o Andorra - poblogaeth 84,000 - sef paritôn o'r enw Marc Canturri.
Bydd enillydd y gystadleuaeth yn derbyn gwobr £15,000 sy'n rhoddedig gan Gyngor Dinas Caerdydd ynghyd â chynigion o rannau amlwg gyda'r Â鶹Éç ac Opera Cenedlaethol Cymru.
Yn cyfeilio i'r cystadleuwyr yng nghystadleuaeth Â鶹Éç Canwr y Byd Caerdydd fydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y Â鶹Éç a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.
Yng nghystadleuaeth y Datganiad y cyfeilyddion fydd Simon Lepper a'r ddau bianydd disglaer o Gymru, Phillip Thomas o Gastell Nedd a LlÅ·r Williams o Rosllannerchrugog.
Bydd yr enillydd yn derbyn £5000 a chynnig cyngerdd yng ngyfres Datganiadau yn St John's, Smith Square, Llundain ac o bosib yn cael y cyfle i fod yn rhan o Gynllun Artistiaid y Genhedlaeth Newydd Â鶹Éç Radio 3.