Adroddiad Blynyddol y 麻豆社 2014/15: Ar Gyfartaledd Mae Cynulleidfaoedd Yng Nghymru Yn Dal I Wylio Mwy O Deledu A Radio'r 麻豆社 Na Rhannau Eraill O'r DU
Nododd Adroddiad Blynyddol y 麻豆社 ac Adolygiad Cyngor Cynulleidfa Cymru heddiw bod cynulleidfaoedd yng Nghymru yn dal i wylio mwy o wasanaethau teledu a radio'r 麻豆社 ar gyfartaledd na rhannau eraill o'r DU.
Roedd uchafbwyntiau rhaglenni yn ystod 2014/15 yn cynnwys dathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas, y tymor diwylliannol mwyaf uchelgeisiol a gynhyrchwyd gan 麻豆社 Cymru erioed. Roedd rhaglenni 麻豆社 Radio Wales yn cynnwys perfformiad byw o Under Milk Wood gyda dros 800,000 o bobl yn gwrando yng Nghymru. Roedd opera sebon hynaf y 麻豆社 Pobol y Cwm hefyd yn dathlu ei phen-blwydd yn 40 ym mis Hydref 2014.
Cyfranodd Doctor Who, Casualty, Crimewatch, Atlantis, Hinterland ac A Poet in New York, cynyrchiadau a wnaed yng Nghymru, yn fawr at allbwn teledu rhwydwaith y 麻豆社 yn y DU. Ymhlith uchafbwyntiau teledu eraill y 麻豆社 roedd rhaglen gan Jamie Baulch Looking for my Birth Mum a oedd yn rhoi cipolwg difyr ar agweddau at hil yng Nghymru, a chafodd y rhaglen hon ei gwerthfawrogi'n fawr iawn gan y gynulleidfa.
O ran chwaraeon, roedd traean o boblogaeth Cymru wedi gwylio Cymru v Lloegr yn ystod y darllediadau byw o'r Chwe Gwlad. Roedd llwyddiant y genedl yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow hefyd wedi cael ei ddathlu mewn rhaglenni newyddion, yn ogystal â rhaglenni dogfen ar S4C fel Gemau’r Gymanwlad: Y Ras i Glasgow.
Cynhaliodd Cyngor Cynulleidfa Cymru'r 麻豆社, sy'n cynghori Cyngor Ymddiriedolaeth y 麻豆社, dau ar bymtheg o gyfarfodydd cynulleidfa ar draws Cymru, a chynhaliodd seminar ym mis Tachwedd. Roedd pwysigrwydd rhaglenni teledu Saesneg ar gyfer Cymru ac a gynhyrchir yng Nghymru ar gyfer cynulleidfaoedd yn un o'r prif themâu a amlygwyd gan y Cyngor Cynulleidfa, gydag argymhelliad i fuddsoddi mwy yn y maes hwn.
Cafwyd cymeradwyaeth gref gan gynulleidfaoedd ar ôl cyflwyno gwasanaeth ar-lein ac ap Cymraeg 麻豆社 Cymru Fyw, a lansiwyd ym mis Mai 2014. Derbyniodd y 麻豆社 hefyd sgoriau uchel am ansawdd o ran gwerthfawrogi rhaglenni teledu'r 麻豆社, ac roedd Cymru ychydig yn uwch na'r DU drwyddi draw. Gofynodd y Cyngor Cynulleidfa am i ragor o raglenni Saesneg gael eu cynhyrchu yng Nghymru ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru, yn ogystal â rhagor o sylw i faterion Cymreig ar newyddion teledu rhwydwaith.
Dywedodd Elan Closs-Stephens, Ymddiriedolwr Cymru y 麻豆社: "Mae 2014/15 wedi bod yn flwyddyn o lwyddiannau neilltuol mewn allbwn sydd wedi cael ei gynhyrchu'n lleol ar draws holl blatfformau'r 麻豆社 yng Nghymru. Er bod y nifer cynyddol o raglenni comisiwn sydd wedi cael eu cynhyrchu ym Mhorth y Rhath wedi calonogi Cyngor Cynulleidfa Cymru, mae sialensiau'n dal i fodoli i gynyddu nifer y cynyrchiadau drama sy'n adlewyrchu'r amrywiaeth sy'n bodoli ledled Cymru a'r DU i gyd. Dros y deuddeg mis nesaf bydd yr Ymddiriedolaeth yn parhau i fynd i'r afael â'r pryderon hyn yn ogystal ag adborth cadarnhaol o'r holl wledydd wrth i ni edrych tua'r Adolygiad o'r Siarter."
Nodiadau i Olygyddion
1. Mae Adolygiad Blynyddol Cyngor Cynulleidfa Cymru ar gyfer 2014/15 ar gael yn
2. Mae Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y 麻豆社 ar gyfer 2014/15 ar gael yn
3. Mae Arolwg Rheolwyr 麻豆社 Cymru o raglenni a gwasanaethau lleol 2014/15 I’w gael yma yn
Search the site
Can't find what you need? Search here